Menywod ym maes cyfrifiadura a pheirianneg – proffil yr Athro Cyswllt, Carlene Campbell

By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mawrth, Mawrth 7, 2023

Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym meysydd STEM

Mae’r erthygl hon yn archwilio gwaith arloesol Carlene Campbell, arloeswraig ysbrydoledig sy’n cymryd camau breision i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym meysydd STEM. Gydag angerdd ac ymroddiad, mae Carlene wedi ymroi i annog menywod ifanc a merched i ddilyn gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch, fforensig cyfrifiadurol, a meysydd technegol eraill sydd yn draddodiadol wedi bod yn feysydd i ddynion yn bennaf.

Dr Carlene Campbell standing in a room containing hi-tech equipment.

A hithau'n ddarlithydd ac ymchwilydd ymMhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae dylanwad Carlene yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'n arwain canolfan ymchwil STEM ac yn cydweithio ar sawl prosiect ymchwil, gan gynnwys menterMADE Cymrumenter a phrosiect Cyflymydd Digidol SMART. Mae ei harbenigedd mewn seiberddiogelwch, technoleg cadwyn atal, ac IoT yn ddigyffelyb, ac mae'n dod â phersbectif unigryw i'r meysydd hyn o fod yr unig fenyw yn ei hadran.

Er ei bod yn arloeswraig yn ei maes, mae Carlene yn parhau i fod yn wylaidd ac ymroddedig i'w chenhadaeth. Mae wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr benywaidd sy’n ymgymryd â rolau sy’n ymwneud â pheirianneg a thechnoleg, ac mae’n gwybod bod ei gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Mae angerdd Carlene dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym meysydd STEM yn heintus, ac mae’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd i chwalu rhwystrau a dilyn eu breuddwydion.

Yr heriau a wynebir gan fenywod ym meysydd STEM

Ysgogwyd ei hangerdd am dechnoleg a chyfrifiadura gan ei mentor, y diweddar Dr. Herma Carpenter-Bernard, a oedd wedi cydnabod ei photensial a'i hannog i ddilyn ei breuddwydion.

Er mai hi oedd un o'r ychydig fenywod ar ei rhaglen astudiaethau cyfrifiadurol a rheolaeth, ni adawodd Carlene erioed i stereoteipiau ar sail rhywedd ei dal yn ôl. Roedd ganddi ddiddordeb angerddol mewn cyfrifiaduron ac awch am wybodaeth a oedd yn ei gyrru yn ei blaen. Roedd yn benderfynol o brofi y gallai menywod ragori ym meysydd STEM lawn cymaint â dynion.

Fodd bynnag, mae Carlene yn cydnabod bod llawer o fenywod ym meysydd STEM yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig o ran cydbwyso cyfrifoldebau teuluol a gwaith. Ond mae’n credu, gyda’r gefnogaeth a’r rhaglenni cywir i danio diddordeb merched mewn STEM mewn ysgolion uwchradd, y gallwn greu byd lle mae menywod yn cael cyfle cyfartal i ddilyn eu breuddwydion a rhagori yn y meysydd hyn.

Mae taith Carlene yn tystio i rym dyfalbarhad, angerdd, a mentoriaeth. Mae wedi dangos i ni, ni waeth pa rwystrau a wynebwn, gyda gwaith caled a phenderfyniad, y gallwn gyflawni ein nodau a gwneud gwahaniaeth yn y byd. Gadewch i ni ddilyn yn ei hôl troed a pharhau i chwalu rhwystrau, trechu stereoteipiau, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd i ddilyn eu breuddwydion ym meysydd STEM. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol mwy disglair lle nad yw rhywedd bellach yn rhwystr i lwyddiant.

Dr Carlene Campbell in Jamaica

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae cynlluniau Carlene ar gyfer y dyfodol yn cynnwys arwain canolfan ymchwil gynhwysol ym meysydd STEM, creu cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol, lleihau ei gwaith addysgu a chanolbwyntio’n bennaf ar ddarpariaeth Ôl-raddedig. Mae hefyd yn bwriadu rhannu ei gwybodaeth a'i phrofiadau fel ymgynghorydd. Y tu allan i'r gwaith, mae'n mwynhau garddio, beicio, a dysgu chwarae'r sacsoffon alto a'r cornet.

Mae Carlene yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. ArDdiwrnod Rhyngwladol y Menywodeleni, gadewch i ni ddathlu cyflawniadau menywod ym meysydd STEM a gweithio gyda’n gilydd tuag at fyd mwy cynhwysol a theg, lle nad yw rhywedd yn rhwystr i lwyddiant, a bod pawb yn cael y cyfle i fynd ar drywydd eu diddordebau angerddol a chyflawni eu nodau.

Daw cynghorwyr arbenigol Cyflymydd Digidol SMART o fyd diwydiant a'r byd academaidd i weithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i roi hwb i'w helw.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS, a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes unrhyw gost ariannol i'r busnes.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com