Cyflymydd Digidol SMART yn mynd i Barcelona!
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mercher, Chwefror 22, 2023
Cafwyd arddangosfa gref gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a busnesau o Gymru yng Nghyngres y Byd IOT Solutions yn Barcelona yn ddiweddar, diolch i raddau helaeth i lwyddiant prosiect SMART Digital Accelerator.
Cyngres y Byd IOT Solutions: llywio dyfodol trawsnewid digidol
Cyngres y Byd IOT Solutionsyw'r prif ddigwyddiad ar gyfer archwilio'r tueddiadau diweddaraf o ran trawsnewid digidol a thechnolegau aflonyddgar. Mae'n darparu map ffordd i arweinwyr diwydiant gyfnewid syniadau, archwilio effaith technoleg ar fusnesau, a mynd i'r afael â chyfleoedd a risgiau.
Arddangos datblygiadau arloesol Cymru
Roedd cynrychiolwyr o brosiect Cyflymydd Digidol SMART, gan gynnwys Richard Morgan, Lisa Lucas, a Raoul Chappell, a chynrychiolwyr o weithgynhyrchwyr yng Nghymru, sefProbe RTS,Morgan Advanced Materials, aSafran Seats, sydd oll wedi elwa o'r prosiect, yn bresennol. Arweiniwyd y ddirprwyaeth gan Gwion Williams, Rheolwr Gweithrediadau Llywodraeth Cymru, a Peter Williams, y Rheolwr Cydberthnasau Technegol.
Eu nod oedd arddangos prosiectau arloesol Cymru a allai newid y diwydiant, a chwilio am berthnasoedd a thechnolegau newydd a all ddarparu atebion i heriau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Roedd gan y ddirprwyaeth ddiddordeb arbennig mewn technolegau newydd a chyfleoedd i drosglwyddo gwybodaeth.
Archwilio canolfannau rhagoriaeth
Roedd amserlen y ddirprwyaeth yn cynnwys ymweliadau â chanolfannau rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen, Argraffu 3D, Diwydiant Digidol, Roboteg, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio amryfal. Rhoddodd hyn gyfle iddynt archwilio'r datblygiadau diweddaraf yn y meysydd hyn a sefydlu perthnasoedd newydd a fydd yn ysgogi arloesedd a thwf.
Meithrin perthnasoedd
Llwyddodd dirprwyaeth PCYDDS i sefydlu perthnasoedd newydd a fydd yn ysgogi arloesedd a thwf, yng Nghymru ac yn fyd-eang, diolch i raddau helaeth i lwyddiant prosiect Cyflymydd Digidol SMART. Roedd cyd-weithwyr o adrannau INSPIRE a Dysgu Digidol PCYDDS hefyd yn bresennol.
Dywedodd Richard Morgan, Arweinydd Prosiect ar gyfer Cyflymydd Digidol SMART a Phennaeth Arloesedd ac Ymgysylltu, PCYDDS:
“Roedd bod yn bresennol yng Nghyngres y Byd IOT Solutions yr wythnos diwethaf yn brofiad gwirioneddol fuddiol i brosiect Cyflymydd Digidol SMART a PCYDDS yn eu cyfanrwydd. Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r ddirprwyaeth a oedd yn arddangos cyfraniadau arloesol Cymru at drawsnewid digidol. Rhoddodd y gyngres lwyfan unigryw i ni archwilio’r datblygiadau diweddaraf yn y maes a sefydlu perthnasoedd newydd a fydd yn sbarduno twf ystyrlon yn ein sector. Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at gysylltu â'r unigolion a'r sefydliadau technolegol niferus yr oeddem wedi cyfarfod â nhw, a hynny gyda golwg ar gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol, rhai ohonynt ar raddfa fyd-eang.”
Rhagor o wybodaeth
Daw cynghorwyr arbenigol Cyflymydd Digidol SMART o fyd diwydiant a'r byd academaidd i weithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i roi hwb i'w helw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS, a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes unrhyw gost ariannol i'r busnes.
SMART Digital Accelerator’s expert advisers are drawn from industry and academia to work with manufacturers in Wales, helping them identify the right technology to boost their bottom line.
The project is funded by Welsh Government, delivered by UWTSD, and supported by the Advanced Manufacturing Research Centre Cymru (AMRC Cymru). There is no financial cost to the business.
Gwybodaeth Bellach
accelerator@www.guaguababy.com