Cadw technoleg a data yn ddiogel wrth groesawu Diwydiant 4.0

By Simon Thomas, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Iau, Chwefror 2, 2023

Mae deall sut i amddiffyn technolegau newydd trwy seiberddiogelwch yn hanfodol ar gyfer llwyddiant busnesau yn yr hirdymor.

Mae mwy o gwmnïau nag erioed yn croesawu'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Yn fwy adnabyddus fel Diwydiant 4.0, mae'r bennod newydd hon yn hanes gweithgynhyrchu yn cyflwyno mabwysiadu technoleg yn gyflym, gan wneud ffatrïoedd yn fwy clyfar trwy amrywiaeth o offer a phrosesau datblygedig.

Er bod arferion Diwydiant 4.0 wedi dod yn safonol yn achos sefydliadau mawr, mae BBaChau hefyd yn dechrau manteisio ar y cyfleoedd newydd hyn. Fodd bynnag, ni waeth pa mor drawsnewidiol y gall technolegau Diwydiant 4.0 fod, mae yna hefyd rywfaint o risg y mae pobl yn aml yn ei gamddeall neu'n anghofio amdani.

Simon Thomas standing in front of a glass door.

Y gwahaniaethau allweddol rhwng seiberddiogelwch TG a TW

Mae technoleg gwybodaeth (TG) a thechnoleg weithredol (TW) yn defnyddio dulliau gwahanol wrth amddiffyn cyfarpar digidol.

Mae'n rhaid i weithredwyr TG ddysgu'n gyson er mwyn ymgyfarwyddo â'r datblygiadau diweddaraf. Mae gwerth cwmni yn aml yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r eiddo deallusol sy'n cael eu storio yn rhwydwaith ei system. Oherwydd hyn, y prif fater diogelwch ar gyfer TG yw'r cyfrinachedd, yr uniondeb a'r argaeledd sy'n cwmpasu data o'r fath.

Ar y llaw arall, mae gweithredwyr technoleg weithredol yn aml yn ymwneud â chynnal systemau sy'n defnyddio cyfarpar blaenorol. Y rheswm am hyn yw'r gost uchel o adnewyddu a'r broses araf o bontio i system ac iddi ofynion newydd. Mae systemau rheoli diwydiannol yn aml yn cynnwys gwendidau hysbys am mai prin iawn yw'r cyfleoedd i ddiffodd y system, ac oherwydd na roddir ystyriaeth i adnewyddu'r cyfarpar oni bai fod hynny'n angenrheidiol. O ganlyniad, prif gyfrifoldeb seiberddiogelwch technoleg weithredol yw dibynadwyedd a diogelwch systemau rheoli a chyfarpar cyfathrebu.

Bygythiadau seiber cyffredin: cyfrineiriau gwan a gwe-rwydo

美ymagwedd gyson, ar y青年报yn hanfodol ar gyferseiberddiogelwch cadarn – trwy weithredu'r un ymddygiadau allweddol, mae aelodau'r tîm yn eu diogelu eu hunain a'r busnes y maent yn gweithio iddo.

Yna aml gellir olrhain ymosodiadau seiber yn ôl i ychydig o fygythiadau cyffredin. Un o'r rhain yw cyfrineiriau gwan. Bob blwyddyn, caiff hunaniaeth miliynau o bobl ei dwyn, caiff cyfrineiriau eu peryglu neu caiff gwybodaeth gyfrinachol ei datgelu o ganlyniad i gyfrineiriau gwan neu ailadroddus. Gan ein bod yn dibynnu gymaint ar dechnoleg, mae'n hanfodol arfogi'r gweithlu ag arferion gorau er mwyn amddiffyn rhag bygythiadau seiber; mae hyn yn cynnwys gosod canllawiau ar gyfer cyfrineiriau cryf.

Mae gwe-rwydo yn fygythiad seiber cyffredin arall. Mae hyn yn defnyddio fformatau adnabyddus, gan gynnwys e-bost, y cyfryngau cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol i dwyllo pobl i gynnig gwybodaeth bersonol yn ddiarwybod neu i roi eu dyfeisiau mwn perygl. Mae chwilio am arwyddion o annilysrwydd yn hanfodol er mwyn amddiffyn rhag ymgeisiau i we-rwydo. Gallai hyn gynnwys gwirio bod cyfeiriad e-bost yn un y gellir ymddiried ynddo, asesu a yw neges sydd wedi dod i law yn berthnasol i'ch gweithgarwch diweddar, neu gydnabod bod rhywbeth a ddywedwyd wrthych yn rhy dda i fod yn wir.

Blue network cables plugged into a server.

Hanfodion seiberddiogelwch: byddwch yn gydnerth, yn drefnus ac yn rhagweithiol

Gall ymosodiadau seiber fod yn ddinistriol, felly mae gwybod sut i amddiffyn rhagddynt yn hanfodol i fusnesau ac unigolion, fel ei gilydd. Dyma'r tri phrif bwynt y gall pob sefydliad a'u timau ddysgu oddi wrthynt.

Byddwch yn gydnerth.Ystyrir mai profi ymosodiad seiber yw un o'r pethau gwaethaf a all ddigwydd i fusnes. Er nad yw'n braf dychmygu cael eich hacio, dylai busnesau baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf posibl rhag ofn y bydd yn digwydd. Er enghraifft, gall meddu ar gynllun i darfu ar weithgarwch ymosodwyr seiber helpu i sicrhau bod cymaint â phosibl o ddata'r busnes yn parhau'n ddiogel. Mae creu strategaeth i gynnal diogelwch rhwydweithiau hanfodol hefyd yn bwysig, fel y gellir adfer unrhyw feysydd yr effeithir arnynt yn achos ymosodiad seiber.

Byddwch yn drefnus.Nid cyfrifoldeb rheolwr y cwmni yn unig yw parhau i fod yn drefnus – mae'n rhywbeth y mae angen i bawb fod yn atebol amdano. Dylai busnesau gynnal dogfen ar gyfer y cwmni cyfan sy'n cwmpasu'r hyn y mae diogelwch gwybodaeth yn ei olygu, a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer data busnes y cwmni. Dylid hefyd weithredu polisïau sy'n esbonio ymwybyddiaeth seiber ac yn amlinellu'r camau i'w cymryd yn achos digwyddiad o'r fath.

Byddwch yn rhagweithiol.Ni ddylai diogelu cyfarpar digidol a data fyth fod yn ôl-ystyriaeth. Mae cadw copïau wrth gefn o ddata yn ffordd ragweithiol o sicrhau nad fyddant yn cael eu colli mewn ymosodiad seiber. Mae sicrhau bod meddalwedd a systemau yn cael eu diweddaru pan fo hynny'n bosibl, gan reoli mynediad o ran pwy sy'n cael defnyddio cyfarpar penodol, hefyd yn bwysig. Gallai hyfforddiant ar ymwybyddiaeth seiber wella siawns busnes o gadw systemau yn ddiogel yn sylweddol. Pan fydd cyflogeion yn deall diogelwch ar-lein, byddant mewn gwell sefyllfa i ofalu bod eich technoleg y cael ei diogelu.

Daw cynghorwyr arbenigol Cyflymydd Digidol SMART o fyd diwydiant a'r byd academaidd i weithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i roi hwb i'w helw.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS, a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes unrhyw gost ariannol i'r busnes.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com