Academyddion y Brifysgol yn rhannu arbenigedd seiberddiogelwch a blockchain ym Macedonia

By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Llun, Ionawr 9, 2023

Cyflwynodd Dr Carlene Campbell, Athro Cyswllt Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Odayne Haughton, Cymrawd Ymchwil, eu gwaith yn3edd Gynhadledd Ryngwladol ar Gymwysiadau Gwyddorau Cyfrifiadura, Rhwydweithio, Telathrebu a Pheirianneg (CoNTESA)a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Mother Teresa yng Ngogledd Macedonia ym mis Rhagfyr ac a noddir ganIEEE.

Trefnwyd y gynhadledd gan Gymdeithas Ryngwladol Addysgwyr ac Ymchwilwyr (IAER) a daeth ag ymchwilwyr a datblygwyr o'r byd academaidd a diwydiant ynghyd.

Dr Carlene Campbell standing in a room containing hi-tech equipment.

Roedd Dr Carlene Campbell yn brif siaradwr ar y diwrnod cyntaf a rhoddodd sgwrs o’r enw‘Rôl Seiberddiogelwch 2022 a Thu Hwnt: Heriau ac Ansicrwydd’gyda ffocws ar Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol.

Cyflwynodd Odayne Haughton bapur o’r enw ‘Gwerthuso integreiddiad Technolegau Blockchain mewn Rheoli Cadwyn Gyflenwi’a chafodd wahoddiad i gyflwyno’r ymchwil hwn yn y gynhadledd.

或40 + O bapuraugyflwynwyd i'r gynhadledd i'w cyhoeddi, dim ond 18 a dderbyniwyd ac o’r 18 cyflwynydd, cafodd papur a chyflwyniad Odayne eu cydnabod drwy’r wobr am y papur gorau.

Tra’u bod yng Ngogledd Macedonia, cyfarfu’r ddau â’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog a Chyfarwyddwr presennol Cyllid Arloesi a Datblygu Technoleg Gogledd Macedonia i drafod cyfleoedd cydweithredol posibl ar gyfer MADE Cymru, prosiect Cyflymydd Digidol SMART a’r Chanolfan Arloesedd Ymchwil Cyfrifiadura Cymhwysol (ACRIC) yn y Brifysgol.

Dr Carlene Campbell in Macedonia

Mae Odayne yn rhan o fenterMADE Cymruy Brifysgol ac mae wedi bod yn ymchwilydd gweithgar yn cynnig cyngor ar dechnolegau blockchain trwy brosiectau ymchwil a datblygu gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Yn 2022, roedd yn rhan o’r tîm a ddewiswyd fel un o naw cyfranogwr ar gyfer y cynllun ymchwil a datblygu a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Demonstrating the Potential of Blockchain’.

Mae Dr Campbell yn un o'r cynghorwyr arbenigol ar brosiect Cyflymydd Digidol SMART. Mae’r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys tîm o gynghorwyr arbenigol yn y diwydiant sy’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i’w helpu i nodi’r dechnoleg gywir i roi hwb i’w elw net. Hi hefyd yw sylfaenydd Canolfan Arloesi Ymchwil Cyfrifiadura Cymhwysol newydd y Brifysgol.

Dr Carlene Campbell in Macedonia meeting

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com