Siarad am ddigideiddio, gweithgynhyrchu a thapiau fideo â Dr John R. Thomas

By Dr John R. Thomas, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mercher, Ionawr 4, 2023

Mae Dr John R. Thomas yn ymgynghorydd ac yn ddarlithydd sy'n meddu ar 40 mlynedd o brofiad yn cyflwyno sgiliau a thechnegau o’r radd flaenaf i ddiwydiannau amrywiol. Mae hefyd yn gynghorydd arbenigol yn y tîm Cyflymydd Digidol SMART ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn dilyn Gradd mewn Cemeg a PhD mewn Cemeg Organig Synthetig, treuliodd John 20 mlynedd gyntaf ei yrfa yn ennill profiad rheoli gweithredol mewn cwmnïau bach a mawr, gan weithio i gwmnïau megis 3M, Rexam, Nissan, a Toyota, a chyda nhw.

Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn rhedeg eiymgynghoriaeth rheoliei hun, gan arbenigo mewn datblygu a gweithredu technegau o'r radd flaenaf sydd â'r nod o greu newidiadau sylweddol cynaliadwy o ran perfformiad a phroffidioldeb busnesau.

Yn ei rôl o fod yn Gymrawd Diwydiannol ym Mhrifysgol Caergrawnt, bu John yn bennaeth ar dîm ar ran y Sefydliad Gweithgynhyrchu, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arloesol i gefnogi cwmnïau bach a chanolig yng Nghymru.

Wearing a suit and tie, Dr John R. Thomas stands in a light modern kitchen.

A allwch ddweud wrthyf am eich rôl/busnes cyfredol a'r hyn yr ydych yn ei wneud? Ai dim ond gyda chleientiaid gweithgynhyrchu yr ydych yn gweithio?

Er bod y rhan fwyaf o'm gwaith yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu, rwy'n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau.

Yr hyn sy'n ddiddorol, serch hynny, yw bod egwyddorion rheoli allweddol yn berthnasol ar draws yr holl feysydd hyn, hyd yn oed mewn sectorau mor amrywiol â phrosesu bwyd a'r sector gwirfoddol. Y cyfan y mae'n ofynnol ei wneud yw eu cymhwyso mewn ffordd fwy cynnil.

Sut y daethoch i ymwneud â'r sector gweithgynhyrchu yn y lle cyntaf?

Ar ôl penderfynu nad oeddwn am fod yn academydd llawn-amser, gwneuthum gais am swydd gyda 3M.

Gan feddwl y byddwn yn Gemegydd Diwydiannol, cefais fy hun yn sydyn yn Beiriannydd Prosesau yn y tîm, a oedd yn gwneud y casetiau fideo cyntaf yn Ewrop – gan lansio Scotch VHS a Betamax.

Roedd yn gyfnod hynod o gyffrous gan ein bod nid yn unig ar flaen y gad o ran technoleg newydd, ond roeddem hefyd, ar yr un pryd, yn newid patrymau ymddygiad mewn cymdeithas: yn sydyn, doedd dim angen i bobl aros gartref i wylio eu hoff raglenni teledu.

Rhoddwyd ysgogiad i dwf y farchnad casetiau wedi'u recordio ymlaen llaw hefyd trwy bartneriaeth BBC/3M – fersiwn gynnar oBlockbusters– a rhoddwyd y cyfrifoldeb o redeg ochr weithrediadau hyn i mi.

Roedd 3M nid yn unig wedi noddi fy MBA ond hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi weithio ledled y byd a datblygu ystod o sgiliau newydd – byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfleoedd y bu iddynt eu cynnig i mi.

Roeddwn yn ffodus wedyn i fod yn rheolwr Gweithrediadau ar gyfer cwmni o’r Swistir yn y gadwyn gyflenwi Fodurol, a hynny ar yr adeg pan oedd Toyota, Nissan a Honda yn sefydlu eu gweithrediadau yn y DU: dyna i chi gyfle i ddysgu am dechnegau Darbodus ac Ansawdd Cyflawn, a fu wedyn yn sylfaen i'm busnes ymgynghori.

Ond nodyn o rybudd: cyn pen 10 mlynedd, disodlwyd y tâp fideo â chryno ddisgiau – a dyna pam y mae'n rhaid i ni fod yn fythol wyliadwrus o'r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n cael eu creu gan dechnolegau newydd.

Oherwydd hynny, mae'n ofynnol i gwmnïau fynd ati'n barhaus i groesawu'r cyfleoedd a grëir gan elfennau megis y rhaglen Cyflymydd Digidol SMART.

Rydych yn aelod gweithredol iawn o'r tîm Cyflymydd Digidol SMART. Pam y bu i chi benderfynu cymryd rhan?

Dyna i chi gyfle!

Roeddwn (yn rhan-amser) wedi bod yn addysgu ac yn adolygu modiwl MSc ar gyfer y Brifysgol Agored o'r enw 'Gweithredu Technolegau Newydd' ers rhyw 15 mlynedd, ac felly roeddwn bob amser yn gyfarwydd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y pwnc.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, roeddwn wedi gweld sut yr oedd y technolegau sy’n gysylltiedig â Diwydiant 4.0 yn newid gweithgynhyrchu’n sylweddol a, chan fy mod yn ymwybodol iawn o’m diffyg sgiliau yn y maes hwn ar y pryd, roedd y cynnig i ymuno â'r tîm Cyflymydd Digidol SMART yn fendith.

Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gromlin ddysgu serth (a phoenus ar adegau) i mi, ond mae wedi bod yn fraint wirioneddol cael bod wrth draed yr arbenigwyr. Rwyf wedi elwa o gyfoeth helaeth o wybodaeth gan weithwyr proffesiynol hynod o dalentog, ond rwy'n ymwybodol iawn bod gennyf gymaint i'w ddysgu o hyd yn yr amgylchedd hwn sy'n datblygu'n gyflym.

VHS video tape

Beth a fydd prif ganlyniadau'r prosiect yn eich barn chi?

Bydd yn her, a bydd rhai cwmnïau’n cael pethau'n anodd, ond ein nod yw creu cwmnïau enghreifftiol a fydd, trwy fabwysiadu technolegau digidol, wedi elwa o fantais fusnes hollbwysig yn eu maes penodol.

Rydym hefyd yn ceisio datblygu沉闷iau profadwy o ran datblygiadau technolegol (megis defnyddio realiti rhithwir, cymwysiadau robotig, cyfarpar clyfar, a modelu prosesau digidol), datblygiadau sydd, o fod wedi llwyddo mewn un cwmni, yn gallu cael eu mabwysiadu’n gyflym wedyn gan lu o gwmnïau â heriau tebyg.

Beth yw prif heriau'r sector heddiw yn eich barn chi?

Gadewch i mi ddechrau gyda stori.

Ddechrau'r 1990au, gofynnwyd i mi gynrychioli’r sector gweithgynhyrchu mewn ffair yrfaoedd i raddedigion.

Er bod cannoedd yn ciwio i archwilio sut y gallent ddod yn gyfreithwyr, yn gyfrifwyr ac yn weision sifil, dim ond tri unigolyn a ymwelodd â'm stondin i i gael gwybodaeth am weithgynhyrchu.

O ganlyniad, mae diwydiant yn dlotach o fethu datblygu'r sylfaen sgiliau ofynnol ar gyfer 30 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd yr agwedd negyddol hon yn adlewyrchu’r ddelwedd wael a oedd gan weithgynhyrchu yn y gymdeithas ar y pryd – ac, a dweud y gwir, mae’r canfyddiad hwn yn dal i fodoli.

Ein her yw dangos y modd y gall gweithgynhyrchu modern fod yn sector cyffrous sy’n talu’n dda ac yn un lle gall graddedigion ffynnu ynddo. Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r rhaglen Cyflymydd Digidol SMART i ddangos y modd y gallwn helpu i greu technolegau glân sy’n gwella’r amgylchedd ac sy’n ychwanegu gwerth at gymdeithas.

A oes yna unrhyw rwystrau cyffredin i ddigideiddio y mae'r busnesau hyn yn eu hwynebu?

Dim ond tair ffordd sydd yna ar gyfer creu cyfoeth: tyfu rhywbeth (amaethyddiaeth), cloddio am rywbeth (mwyngloddio), neu brosesu'r hyn yr ydych wedi'i dyfu neu'i gloddio (cynhyrchu).

Oni bai eich bod yn gwneud un o'r pethau hyn, dim ond symud cyfoeth oddi amgylch yn y sector gwasanaethau yr ydych.

Gellir tyfu a chloddio yn llawer rhatach dramor.

Felly, er mwyn ffynnu, rhaid i gymdeithas gynyddu cyfran y sefydliadau sy'n creu cyfoeth. I gyflawni hyn, nid oes gennym unrhyw ddewis yn fy marn i ond dod yn gynyddol dda unwaith eto am brosesu!

Bydd digideiddio a mabwysiadu technolegau Diwydiant 4.0 yn ffactor hollbwysig o ran pa un a ydym yn mynd i'r afael â her o’r fath ai peidio. Dyma pam yr wyf yn ystyried rôl y tîm Cyflymydd Digidol SMART yn esiampl mor bwysig yn y chwyldro hwn ym maes busnes.

Ond bydd yn un her enfawr: os na fyddwn yn datblygu unwaith eto i fod yn dda am weithgynhyrchu, rheoli dirywiad fydd hanes economi’r DU.

Mae Cyflymydd Digidol SMART yn un o brosiectau PCYDDS (a Llywodraeth Cymru); pa rôl yr ydych yn meddwl y gall y byd academaidd ei chwarae o ran dylanwadu ar y sector gweithgynhyrchu?

Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi meddwl llawer amdano yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o'r helaethrwydd o arbenigedd sy'n bodoli yn y byd academaidd, arbenigedd a allai fod o gymaint o fudd i lu o gwmnïau sy’n cael pethau’n anodd.

Fodd bynnag, yn anaml y mae或wybodaeth鸿yn cael ei chyfnewid mewn modd effeithlon â darpar ddehonglwyr yr arbenigedd hwn. Mae pobl mewn Diwydiant yn cael eu dychryn gan y jargon academaidd, ac, yn fynych, mae ymchwilwyr academaidd yn cael eu llethu gan natur anrhagweladwy yr amgylchedd gweithgynhyrchu o ddydd i ddydd.

Dyma lle mae gan y tîm o ymgynghorwyr profiadol sy'n rhan o'r rhaglen Cyflymydd, gan fy nghynnwys fy hun, rôl i'w chwarae: mae angen i ni fod yn 'borthgeidwaid' sy'n sicrhau bod y broses hon o drosglwyddo gwybodaeth yn mynd rhagddi mewn ffordd effeithlon ac anfygythiol.

Beth yw eich rhagfynegiadau ar gyfer y tueddiadau/newidiadau a fydd yn digwydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf?

O ystyried anwadalrwydd gwleidyddol y chwe blynedd ddiwethaf, pwy a ŵyr!

Y cyfan a wn i yw, os na fyddwn yn adeiladu sector gweithgynhyrchu cryf yn seiliedig ar sgiliau digidol o’r radd flaenaf, bydd y dirywiad economaidd a welwn heddiw yn parhau.

Heblaw am waith, beth arall yr ydych yn hoffi ei wneud? Unrhyw hobïau, hoffterau (ar wahân i'r wyrion!)

Wrth i chi fynd yn hŷn, rydych yn tueddu i athronyddu mwy, ac mae hobïau'r gorffennol yn dod yn llai pwysig. Rwy'n tueddu i ganolbwyntio fwyfwy ar fy nheulu. Mae fy wyrion a'm hwyresau yn fy nghadw'n brysur iawn, ac nid yw eu brwdfrydedd dros fywyd byth yn peidio â'm hadfywio.

Fodd bynnag, os na fyddwn yn creu economi fwy cynaliadwy, yn seiliedig ar rai o’r materion yr ydym wedi’u trafod yma, yna rwy'n poeni na fyddant yn mwynhau’r cyfleoedd yr wyf i wedi bod mor ffodus i’w cael.


Os hoffech archwilio unrhyw rai o'r materion hyn ymhellach neu ymchwilio i'r offer digidol mwyaf priodol i wella gweithrediadau eich cwmni, ystyriwch gysylltu â'r tîmCyflymydd Digidol SMARTymMhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant(PCYDDS) trwy anfon neges e-bost iaccelerator@www.guaguababy.com.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS a'i gefnogi ganGanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru(AMRC Cymru).

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com