Awtomatiaeth, digideiddio a brocantes gyda Laurence Wood

By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mercher, Tachwedd 23, 2022

Mae Laurence Wood yn un o'r cynghorwyr arbenigol yn nhîm Cyflymydd Digidol SMART ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae hefyd yn gweithio ynSiambrau Cymru Y De-ddwyrain, y De-orllewin a'r Canolbarthyn rôl Cyfarwyddwr Cyfrifon, ac mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol ynPOET Systems Ltdym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae ganddo CV trawiadol sy'n cynnwys cyfnodau yn LAC Conveyors & Automation, EBS Automation a STAUBLI, ac mae ganddo gyfuniad pwerus o arbenigedd gweithgynhyrchu a phenderfyniad i ddatblygu a thrawsnewid busnesau.

Nid yw ei brofiad yn benodol i'r sector chwaith, ac mae wedi gweithio ym maes gweithgynhyrchu, peirianneg, hamdden a thwristiaeth, gwasanaethau proffesiynol, a manwerthu.

Buom yn eistedd gyda Laurence yn ei holi am ei yrfa ac am ei feddyliau a'i ragfynegiadau ynghylch y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Laurence Wood

A allwch chi ddweud wrthyf am eich rôl bresennol yn Siambrau Cymru, a'r hyn y mae'n ei olygu?

Rwy'n Gyfarwyddwr Cyfrifon yn Siambrau Cymru ac, yn hynny o beth, mae gennyf berthynas weithio agos iawn â'n haelod gwmnïau fel arfer, yn enwedig y timau rheoli. Rwy'n eu cynorthwyo gyda heriau a chyfleoedd eu busnes, boed hynny trwy gyrraedd marchnadoedd newydd, pobl a sgiliau, eiddo a chyfleusterau neu gyllid ac ariannu, unrhyw beth y mae arnynt angen cymorth ag ef.

Yr hyn rwy'n ei garu fwyaf yw'r cyfle i weithio gydag ystod mor amrywiol o fusnesau ar draws myrdd o sectorau.

Sut y daethoch i ymwneud â'r sector gweithgynhyrchu?

Trwy syrthio i mewn iddo mewn gwirionedd. Fy nghefndir yw datblygu busnes, ac rwyf wedi gweithio ar draws nifer o sectorau; fodd bynnag, flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn y diwydiant morol, dysgais am CAD, peirianneg fecanyddol a thrydanol, hydroleg, niwmateg, gwyddor deunyddiau, ac ati, a hynny ar gwrs HNC yr oeddwn wedi'i gwblhau yn Sir Benfro. Pan oeddwn yn gwneud gwaith ymgynghori ar gyfer cwmni o Beirianwyr Awtomatiaeth, bu iddynt sylwi bod gennyf rywfaint o allu technegol.

Roedd y Peirianwyr Awtomatiaeth yn dylunio, adeiladu a gosod peiriannau at ddibenion arbennig ar gyfer gweithgynhyrchwyr ledled amrywiaeth o sectorau, ac yno, flynyddoedd lawer yn ôl, y dechreuais gysyniadu cyfarpar cynhyrchu cymhleth.

Rydych yn aelod gweithredol iawn o dîm Cyflymydd Digidol SMART. Pam y bu i chi benderfynu cymryd rhan?

Yn ystod y blynyddoedd pan oeddwn yn gweithio i STAUBLI Robotics, roeddwn yn ddigon ffodus i allu gweithio gyda rhai o'r elfennau roboteg mwyaf datblygedig yn y byd. Sylweddolais y byddai'r technolegau hyn yn newid y diwydiant gweithgynhyrchu am byth, a phan ddaeth y cyfle i ddefnyddio'r hyn yr oeddwn wedi ei ddysgu i gynorthwyo gweithgynhyrchwyr yng Nghymru ar eu taith ddigidol, achubais ar y cyfle.

Laurence Wood and the SMART Digital Accelerator team.

Beth fydd prif ganlyniadau'r prosiect, yn eich barn chi?

Hoffwn feddwl bod yn chwarae ein rhan wrth sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn aflonyddwyr, yn hytrach na bod pethau'n aflonyddu arnyn nhw. Mae technoleg yn newid yn gyflym, a bydd y rheiny nad ydynt yn croesawu technolegau digidol yn cael eu gadael ar ôl.

Rwy'n siŵr y bydd gweithgynhyrchwyr yng Nghymru yn parhau i groesawu'r technolegau hyn, gan ddod yn fwy cynhyrchiol yn y broses a sicrhau bod gennym sector gweithgynhyrchu sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Beth yw prif heriau'r sector heddiw, yn eich barn chi?

Gallwn ysgrifennu llyfr am hynny, ond petai'n rhaid i mi ddewis un peth, byddwn yn dweud bod pobl a sgiliau yn agos at frig y rhestr. Mae yna gyfleoedd enfawr ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru mewn sectorau megis Ynni Adnewyddadwy (yn enwedig Gwynt Arnofiol ar y Môr), Cerbydau Trydan, Amaeth-dechnoleg, Technoleg Feddygol, ac ati, sy'n datblygu'n gyflym bob un; ond yr her yw annog ymadawyr ysgolion a graddedigion bod gweithio yn y sector gweithgynhyrchu yn ddewis da o ran gyrfa.

Yna, rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu prentisiaethau a hyfforddiant sy'n eu paratoi'n llawn ar gyfer gweithio yn y sectorau hyn, gyda'r wybodaeth gywir am y dechnoleg y byddant yn gweithio gyda hi fel eu bod yn gynhyrchiol pan fyddant yn dechrau ar eu rolau llawn-amser. Mae yna hefyd ofyniad i roi hyfforddiant i dimau rheoli ar y modd i roi technoleg ddigidol ar waith yn llwyddiannus.

Pa heriau y mae busnesau'n eu hwynebu wrth ystyried digideiddio?

Y peth cyntaf sy'n ofynnol yw meddwl agored. Mae'n gwbl ddealladwy y gallai busnes sy'n gweithredu ar lefel weddol gyson am gyfnod hir deimlo'n amharod i newid peiriannau neu brosesau sefydledig, felly argymhellir cymryd camau bach ar y dechrau, er mwyn galluogi'r busnes a'r gweithlu i addasu i'r newidiadau hyn.

Pa newidiadau yr ydych chi wedi'u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a sut y mae'r newidiadau hynny wedi dylanwadu ar yr economi gweithgynhyrchu?

Gan fy mod yn ymwneud yn bennaf â Roboteg ac Awtomatiaeth, rwyf am ateb y cwestiwn hwn o'r safbwynt hwnnw. Mae awtomatiaeth yn datblygu'n gyflym iawn; yn un enghraifft, mae llawr mwy o robotiaid cydweithredol yn mynd i mewn i'r gweithle 'nawr, lle bu dim ond robotiaid diwydiannol gochelgar ar un adeg.

Mae awtomatiaeth yn disodli tasgau diflas, ailadroddus iawn, ac mae hynny, yn ei dro, yn caniatáu i weithredwyr gyflawni tasgau o werth uwch y maent yn cael eu huwchsgilio ar eu cyfer, felly mae pawb ar eu hennill.

Mae Cyflymydd Digidol SMART yn un o brosiectau PCYDDS (a Llywodraeth Cymru); pa rôl yr ydych chi'n meddwl y gall y byd academaidd ei chwarae o ran dylanwadu ar y sector gweithgynhyrchu?

Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod y byd academaidd yn parhau i weithredu fel pont rhwng technolegau newydd a'r broses o'u cyflwyno. Mae deall a hyfforddi'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol i osod a gweithredu'r cyfarpar datblygedig hwn mewn modd effeithiol yn rôl hanfodol os yw busnesau i ystyried mabwysiadu'r technolegau hyn.

Beth yw eich rhagfynegiadau ar gyfer y tueddiadau/newidiadau a fydd yn digwydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf?

Mae gweithgynhyrchwyr yn wydn iawn ac maent eisoes yn cymryd camau breision i barhau i fod yn berthnasol yn yr 21ain ganrif trwy fabwysiadu technolegau newydd a throi at gynhyrchion a sectorau newydd. Mae gennym sylfaen gynhyrchu wych yma yng Nghymru, ac rwy'n sicr y byddant yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol agos, yn enwedig yn y meysydd yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, megis Gwynt Arnofiol ar y Môr, Cerbydau Trydan, Amaeth-dechnoleg, Technoleg Feddygol, ac ati.

Beth ywbrocanteFfrengig?

Haha!Brocanteyw'r hyn sy'n cyfateb yn Ffrainc i farchnad rad yma yn y DU – rhywle rhwng sêl cist car a ffair hen bethau. Mae'n deg dweud fy mod wedi gwirioni â nhw, ac rwyf hyd yn oed wedi dechrau masnachu'r eitemau roeddwn yn eu prynu yno (ond mae honno'n stori wahanol). Rwyf wrth fy modd â dodrefn acobjets d'artFfrengig o'r 19eg ganrif, ac yn ystod fy ngwyliau diwethaf yn Ffrainc bu i mi ymweld â degbrocantemewn联合国度pedwar diwrnod。嗯,dywedais国防部财政年度wedi gwirioni!


Os hoffech archwilio unrhyw rai o'r materion hyn ymhellach neu ymchwilio i'r offer digidol mwyaf priodol i wella gweithrediadau eich cwmni, ystyriwch gysylltu â thîm Cyflymydd Digidol SMART ymMhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant(PCYDDS) trwy anfon neges e-bost i accelerator@uwtsd.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS a'i gefnogi ganGanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru(AMRC Cymru).

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com