Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg – Cyflwyno Raoul, Simon, a Jordan o PCYDDS

By Lucy Beddall, SMART Digital Accelerator
Dydd Mercher, Tachwedd 2, 2022

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg, rydym am gyflwyno i chi dri o’n harbenigwyr ymchwil sy’n gweithio ar brosiect Cyflymydd Digidol SMART ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg yn ddiwrnod i ddathlu ac amlygu'r modd y mae peirianwyr a pheirianneg yn effeithio ar ein dyfodol ac yn ei lywio. Mae thema eleni yn seiliedig ar y modd y mae peirianneg yn gwella bywydau.

Gofynnwyd i bob un ohonynt pa effaith y mae eu gwaith yn ei chael.

Research Associates at UWTSD

Raoul Chappell, sy'n meddu ar BEng Peirianneg Chwaraeon Eithafol ac MSc Peirianneg Fecanyddol.

Arbenigedd:

  • Roboteg gydweithredol a diwydiannol
  • Efelychu prosesau gweithgynhyrchu uwch
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Datblygu cynnyrch a dadansoddi strwythurol
'Mewn cyferbyniad â’r farn bod awtomeiddio yn disodli swyddi, y gwrthwyneb sy'n wir yn fy marn i. Gellir yn aml ddefnyddio robotiaid diwydiannol ar gyfer tasgau ailadroddus, gan roi cyfleoedd newydd i'r gweithredwr uwchsgilio a rheoli'r dechnoleg. Pan fydd cynhyrchiant yn cynyddu, mae cyflogaeth yn cynyddu, a swyddi newydd yn cael eu creu.'Raoul Chappell.

Engineering equipment

Simon Thomas, sy'n meddu ar BSc Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch ac MSc Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Diogelwch PCYDDS.

Arbenigedd:

  • Seiberddiogelwch
  • Y Rhyngrwyd Pethau
  • Deallusrwydd Cysylltiedig
'Mae Diwydiant 4.0 wedi cyflwyno technolegau newydd a all wneud sefydliad yn agored i ymosodiadau seiberddiogelwch. Dim ond un gwendid sy'n ofynnol i gyfaddawdu cyfanrwydd busnes. Mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn arbennig o agored i hyn yn aml gan nad oes ganddynt bob amser y strategaethau a'r systemau ar waith. Rwy’n mwynhau helpu BBaChau yng Nghymru i'w hamddiffyn eu hunain a sicrhau eu bod wedi paratoi at y dyfodol.'Simon Thomas.

Jordan Jenkins, sy'n meddu ar BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ac MSc Peirianneg Fecanyddol

Arbenigedd:

  1. Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol ar gyfer systemau gweithgynhyrchu
  2. Datblygu datrysiadau awtomeiddio cost isel
  3. Golwg peiriant a chyfrifiadurol (roboteg a arweinir gan y golwg)
  4. Efelychu prosesau a gefeilliaid digidol
'Yn ogystal â darparu cymorth i weithgynhyrchwyr ar eu teithiau awtomeiddio, rwyf hefyd yn mwynhau’r broses trosglwyddo gwybodaeth sy’n digwydd rhwng f'ymchwil a’r sefydliadau rwy’n gweithio gyda nhw. Gwn fod hyn yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall. Yn ogystal, rwyf hefyd yn lledaenu'r wybodaeth hon i'r myfyrwyr rwy'n eu haddysgu. Mae’r berthynas sydd gan PCYDDS â diwydiant yn rhoi astudiaethau achos gwych i’r myfyrwyr, a gwn fod hyn yn helpu i ddangos iddynt pa mor gyffrous yw peirianneg fel dewis gyrfa.'Jordan Jenkins.

Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg addas i hybu eu llinell waelod.

Ariennir CyflymyddDigidol SMART gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com