Labordy Seiber-ffisegol Festo PCYDDS ar waith
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Iau, Mai 5, 2022
Dyma glip byr o Labordy Seiber-ffisegol Festo ar waith. Cafodd ei ffilmio gan Glyn Jenkins sy'n arbenigwr ym maes VFX, Animeiddio a Ffilm, ac sy'n gweithio ar brosiectMADE CymruPCYDDS.
Mae'r cyfarpar arloesol hwn yn byw ar Gampws SA1 Glannau Abertawe PCYDDS, ac fe'i defnyddir i helpu gweithgynhyrchwyr i fabwysiadu technoleg newydd heb darfu ar linellau cynhyrchu presennol. Gall eu helpu i leihau gwastraff a chynyddu cynhyrchiant – gan roi mantais gystadleuol i sefydliad (ac arbed arian iddo).
Dyma'r ffilm:
Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg iawn i hybu eu helw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.
Nodyn i'r Golygydd
accelerator@www.guaguababy.com