Myfyriwr ffilm PCYDDS yn gweithio yn rôl intern i gwmni technoleg twf uchel

By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mawrth, Ebrill 12, 2022

Yn ddiweddar, daeth Lynn Davies, Cyfarwyddwr TechnegolPOET Systemsym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar ymweliad â Champws SA1 Glannau Abertawe PCYDDS. Mae Lynn yn arbenigwr yn y diwydiant ar y prosiect Cyflymydd Digidol SMART a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect, a reolir gan PCYDDS, yn ceisio cefnogi gweithgynhyrchwyr i fabwysiadu technoleg newydd sy’n hybu eu cynhyrchiant a’u perfformiad sylfaenol.

Lynn and Daniel at UWTSD

Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch Labordy Seiber-Ffisegol Festo, a rhoddodd Lynn arddangosiad byw o'r feddalwedd POET, sef system gwmwl bwrpasol sydd wedi'i chynllunio i gynyddu cynhyrchiant ac elw gweithgynhyrchwyr.

Mae Daniel Ralph, myfyriwr Ffilm a Theledu trydedd flwyddyn yn PCYDDS, ar interniaeth gyda POET. Daeth Daniel gyda Lynn ar yr ymweliad a gwneud ffilm fer am yr achlysur. Tra oedd yma, aethom ati i'w holi am ei interniaeth.

Y cwrs

Rwy’n astudio Gradd Ffilm a Theledu yn PCYDDS, a wir wedi mwynhau’r rhyddid y mae’r cwrs yn ei roi i mi archwilio fy niddordebau. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn fy mod, yn rhan o'm haseiniadau, yn gallu gweithio'n uniongyrchol gyda diwydiant gan y bydd hyn yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Bod yn intern

Penderfynais ymgymryd ag interniaeth gyda’r tîm POET gan fod gennyf brofiad blaenorol o beirianneg ar lefel TGAU. Gwyddwn y byddwn yn gallu cyfuno'r wybodaeth flaenorol hon â'm gradd i gynhyrchu'r cynnyrch gorau ar gyfer POET a'm haseiniad.

Yr hyn yr wyf wedi bod yn ei wneud

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Lynn i gynhyrchu cyfres o archwiliadau rhaglen o'r feddalwedd POET, yn ogystal â fideos ar gyfer YouTube ar Welliant Parhaus a Chynhyrchiant. Rwyf hefyd wedi gwneud ffilm fer sy'n dogfennu ein hymweliad â PCYDDS. Gallwch ei gweld yma.

Sgiliau newydd

Yn ystod f'amser gyda'r tîm POET, rwyf wedi ehangu fy ngwybodaeth am weithgynhyrchu, ac wedi meithrin sgiliau mewn arddulliau cynhyrchu gwahanol ar y cyfryngau na chefais gyfle i weithio arnynt yn flaenorol, megis archwiliadau rhaglen technegol.

Profiad arall

Y tu allan i'm hastudiaethau, rwyf wedi gweithio gyda chleientiaid megisThose Damn Crowsi gynhyrchu fideo hyrwyddo ar gyfer eu cwrw cydweithio gydaDog's Window Brewery. Ar ben hyn, rwyf wedi gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gynhyrchu cyfres o deithiau 360 gradd ar gyfer ei adran gyrfaoedd. Roedd y rhain yn mynd â myfyrwyr i amgylcheddau gwaith na fyddent yn gallu mynd iddynt fel arall.

Cynhyrchwyd hyn i gyd trwy fy musnesBlue Bench Media, enillydd gwobr 'Busnes Myfyriwr y Flwyddyn Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2019'.

Meddai Lynn Davies, POET, “Mae gan Daniel ddeallusrwydd busnes da, ac mae'n sicrhau bod ei sgiliau yn fasnachol hyfyw yn yr yrfa y mae wedi'i dewis. Mae wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i'n sefydliad, mae wedi ein helpu i gynhyrchu cynnwys deniadol, ac mae wedi dod â sgiliau gwahanol i gyd-fynd â'n cynnyrch. Mae ei gyfuniad o wybodaeth am beirianneg a ffilmiau yn un anarferol iawn ond cadarn. Rwy’n gweithio gyda PCYDDS ar eu prosiectau Cyflymydd Digidol SMART a MADE Cymru, felly mae hwn wedi bod yn gydweithrediad llwyddiannus arall i POET a’r Brifysgol”.

Dywedodd Timi O’Neill, Cyfarwyddwr y Rhaglen BA Ffilm a Theledu yn PCYDDS, “Mae gwaith Daniel bob amser wedi gwneud argraff arnaf. Mae'n fideograffydd llwyddiannus yn fasnachol ac ynentrepreneur. Rydym yn annog myfyrwyr i feddwl mewn modd entrepreneuraidd am eu hastudiaethau, ac rydym yn cynnig ystod eang o gymorth i'w helpu yn hyn o beth. Mae ein rhaglen interniaeth yn enghraifft dda o hyn”.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com