Ai dychwelyd gweithredoedd adref yw'r ateb i argyfwng byd-eang y gadwyn gyflenwi?

By Dr John R. Thomas
Dydd Iau, Mawrth 24, 2022

Yn sgil ôl-groniadau mewn archebion a chostau cludo cynyddol, gallai dod â gweithrediadau adref gyda chymorth uwch-dechnoleg ddigidol ddarparu mwy o gyfleoedd i BBaChau.

Mae cadwyni cyflenwi byd-eang a masnach ryngwladol wedi ffrwydro yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf. Mae'r dilyniant cymhleth, rhyngwladol o gamau y mae eu hangen i wneud a gwerthu cynnyrch ar raddfa fyd-eang wedi galluogi cwmnïau i gyrchu gweithrediadau cynhyrchu yn y mannau rhataf, gan ddarparu ystod ehangach o nwyddau am gostau is i ddefnyddwyr.

Er hynny, gall masnach ryngwladol greu problemau hefyd. Datgelodd COVID-19 fod cadwyni cyflenwi byd-eang modern yn dai ar dywod, sy'n cwympo'r eiliad y dônt dan unrhyw fath o bwysau parhaus.

Welsh flag for Onshoring Article

Mae busnesau a gafodd eu dal ar awr wan gan y cyfyngiadau symud byd-eang wedi canfod mai gorchwyl bradwrus yw ymdopi â chyflymder yr adferiad. Mae porthladdoedd dan eu sang (a aeth o ddrwg i waeth yn sgil digwyddiadau megis y dagfa yng Nghamlas Suez, digwyddiadau tywydd eithafol, a thân mewn ffatri gweithgynhyrchydd sglodion silicon o Japan) wedi arwain at ôl-groniadau sylweddol a chynnydd mawr mewn costau cludo, sydd wedyn yn aml yn cael eu trosglwyddo i'r defnyddiwr.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at ba mor gydgysylltiedig ac ansefydlog y gall cadwyni cyflenwi byd-eang fod. Mae atalfeydd yn y cadwyni cyflenwi, tagfeydd, a rhwystrau yn y system gynhyrchu wedi effeithio ar amrywiaeth eang o sectorau, gwasanaethau a nwyddau.

Efallai mai dod â gweithrediadau alltraeth yn ôl adref i’w gwlad wreiddiol yw’r ateb i’r heriau hyn.

Manteision dychwelyd gweithrediadau adref

Mae busnesau sy'n ail-archwilio eu cadwyni cyflenwi wedi dod i sylweddoli efallai nad yw eu rhwydweithiau logisteg mor gadarn ag yr oeddent wedi meddwl ar un adeg.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon hefyd yn cynnig cyfleoedd. Trwy fanteisio ar dechnegau digidol Diwydiant 4.0, gall cwmnïau bach a chanolig (BBaChau) ddod yn ystwyth ac yn hyblyg, gan gwtogi ar effaith yr oedi sy'n rhan o gadwyni cyflenwi hir, nad oes ganddynt fawr o ddylanwad a rheolaeth arno.

Trwy ddychwelyd gweithrediadau adref a datblygu technolegau sy'n hwyluso'r broses o fabwysiadu modelau busnes mwy hyblyg sy'n cael eu gyrru gan alw, gellir lleihau amseroedd ymateb y gadwyn gyflenwi. Mae hefyd yn galluogi BBaChau i wella eu gwytnwch, gan eu galluogi i wrthsefyll yr aflonyddwch a achosir gan ddigwyddiadau byd-eang.

Gall cyrchu nwyddau a gwasanaethau yn nes at gwsmeriaid a marchnadoedd terfynol helpu i ddadrisgio cadwyni cyflenwi, a byrhau'r amser arwain cyffredinol o'r archeb i'r adeg dosbarthu ar yr un pryd.

Addasu i ddigidol

Disgwylir i ddatblygiadau technolegol digidol drawsnewid gweithgynhyrchu modern wrth i'r galw gan ddefnyddwyr am gynhyrchion pwrpasol gynyddu. Dwy enghraifft yn unig o'r ffenomen hon yw argraffu 3D mewn perthynas â phrototeipiau dylunio newydd a gosod cymalau unigol mewn llawdriniaethau.

Mae gan y newidiadau hyn oblygiadau enfawr i fusnesau cadwyni cyflenwi, y bydd angen iddynt ymateb ac addasu. Bydd prosesau hyblyg, megis gweithgynhyrchu ychwanegion a roboteg y gellir eu hailffurfweddu yn lleihau pwysigrwydd arbedion maint mewn rhai mathau o weithgynhyrchu, gan gefnogi mwy o leoleiddio o ran cadwyni cyflenwi a galluogi mwy o deilwra o ran cynhyrchion a gwasanaethau.

Mae defnyddio awtomeiddio digidol yn rheswm pendant iawn dros ddychwelyd gweithrediadau cynhyrchu adref a'u symud i ganolfan ddomestig. Mae awtomeiddio yn galluogi sefydliadau i wrthbwyso rhai o'r costau o ddychwelyd gweithrediadau adref, trwy ddefnyddio roboteg a galluoedd deallus sy'n awtomeiddio peiriannau a chyfarpar. Gall y systemau deallus hyn gwblhau tasgau yn gyflymach ac yn gywirach na phobl.

Dr John Thomas

Cau'r bwlch sgiliau

Dylai unrhyw weithgynhyrchydd sy'n ystyried dychwelyd gweithrediadau adref ddatblygu cynllun strategol, gan ystyried risgiau'r gadwyn gyflenwi, parhad y cyflenwad, ansawdd a phrisiau.

Mae dealltwriaeth o sut i gau’r bwlch mewn sgiliau digidol hefyd yn bwysig. Mae’r bwlch sgiliau digidol yn cyfeirio nid yn unig at brinder gweithwyr proffesiynol medrus iawn ym maes technoleg a TG, ond hefyd diffyg sgiliau sylfaenol ymhlith gweithwyr, sy’n eu hatal rhag datblygu'r galluoedd i gyflawni tasgau beunyddiol mwy cymhleth.

Yn 2019, canfu adroddiad弥合数字鸿沟gan y Brifysgol Agored fod bron i naw o bob 10 (88%) o sefydliadau’r DU yn cyfaddef eu bod yn wynebu prinder sgiliau digidol, gan arwain at effaith negyddol sylweddol ar gynhyrchiant, effeithlonrwydd a chystadleurwydd.

Mae angen partneriaethau cryfach rhwng llywodraethau, diwydiant a darparwyr addysg i sicrhau bod sgiliau newydd yn cael eu datblygu yn y meysydd cymhwysedd canlynol:

  • Llythrennedd gwybodaeth a data
  • Creu cynnwys digidol
  • Cyfrifiadura cwmwl
  • Cyfathrebu a chydweithredu digidol
  • Datrys problemau digidol
  • Diogelwch digidol
  • Rheoli prosiectau digidol

Enghraifft dda o gydweithredu rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant ywCyflymydd Digidol SMARTym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Mae'r rhaglen hon yn defnyddio cynghorwyr arbenigol y diwydiant i weithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, i'w helpu i ddod o hyd i'r dechnoleg gywir i roi hwb i'w helw.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan PCYDDS, a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Gyda chymorth Cyflymydd Digidol SMART, gall cwmnïau o Gymru fanteisio ar gyfleoedd newydd, tyfu eu sefydliadau a gwella eu cystadleurwydd.

Nodyn i'r Golygydd

Mae Dr John R. Thomas yn ymgynghorydd ac yn ddarlithydd sydd â 40 mlynedd o brofiad yn cyflwyno sgiliau a thechnegau o’r radd flaenaf mewn diwydiannau amrywiol. Mae hefyd yn gynghorydd arbenigol ar dîm Cyflymydd Digidol SMART ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com