Un o'r graddedig Peirianneg Fecanyddol o PCYDDS yn rhannu'r syniadau sy'n sail i'w brosiect terfynol ar Ddeallusrwydd Artiffisial

By Lucy Beddall, SMART Digital Accelerator, UWTSD
Dydd Iau, Mawrth 17, 2022

Mae Jordan Jenkins yn Gydymaith Ymchwil ac yn ddarlithydd yn PCYDDS; mae hefyd yn aelod allweddol o brosiect Cyflymydd Digidol SMART y Brifysgol a ariennir gan Lywodraeth Cymru (sy'n cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i fabwysiadu technolegau newydd). Ar hyn o bryd, mae'n gorffen gradd MSc mewn Peirianneg Fecanyddol, a graddiodd gyda BEng mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn 2020 (Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf).

Jordan Jenkins, UWTSD graduate

Gallwch wylio fideo o'i brosiect terfynol, sef system llywio â chamera, yma:

Buom yn siarad â Jordan i'w holi ychydig yn rhagor am y prosiect.

“Cafodd y system llywio â chamera ei datblygu ar gyfer traethawd estynedig fy mhrosiect israddedig. Nod yr astudiaeth oedd profi bod yna ddewisiadau amgen mwy fforddiadwy ar gael yn lle'r galedwedd caffael delweddau gostus a ddefnyddir yn aml mewn rhaglenni golwg peiriannau diwydiannol (sydd fel arfer yn costio miloedd o bunnoedd). Roedd hwn yn fater arbennig o gyfoes gan fod roboteg gydweithredol yn dod yn fwy a mwy hygyrch, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig.

Roedd yr astudiaeth hefyd yn anelu at ddangos y gallwn barhau i fanteisio ar y buddiannau y gall Deallusrwydd Artiffisial (dysgu peiriant/dwfn) eu cynnig hyd yn oed pan fyddwn yn defnyddio caledwedd cost isel. Felly, er bod y system yn seiliedig ar galedwedd syml iawn (gwe-gamera USB Logitech gwerth £30), mae'r rhaglen y mae'n seiliedig arni yn un soffistigedig.

Mae'r system yn defnyddio Rhwydweithiau Niwral Ymdroellol (canfodyddion gwrthrychau seiliedig ar ddysgu dwfn) i bennu pa fathau o fwrdd cylched printiedig (PCB) sydd yn y lleoliad gwaith, yn trawsnewid lleoliad/cyfeiriadedd 2D y PCB yn gyfesuryn byd 3D i bennu ystum cydio y robot, ac yna'n defnyddio algorithm dysgu peirianyddol o'r enw Adaptive K-means Clustering i gyflawni trefn archwilio awtomataidd i ganfod diffygion yn y broses weithgynhyrchu.”

Gall hyn gael effaith fawr ar wneuthurwyr am ei fod yn dangos nad oes rhaid i opsiynau technolegol newydd fod mor gostus â'r disgwyl. Mae hon yn fantais bwysig, yn enwedig i fusnesau llai.

Mae Jordan yn cymhwyso'r ffordd hon o feddwl at brosiect y Cyflymydd Digidol SMART, ac yn gobeithio helpu sefydliadau llai i fabwysiadu technolegau sy'n costio llai ac a fydd yn sicrhau gwelliannau economaidd cadarnhaol yn achos eu cynhyrchion a'u prosesau.

Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg addas i hybu eu helw.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.

Gwybodaeth Bellach

accelerator@www.guaguababy.com