Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Cyrsiau Israddedig- Astudiaethau Crefyddol (BA) – Cydanrhydedd Yn Unig

Astudiaethau Crefyddol (BA) – Cydanrhydedd

Ymgeisio Nawr

Mae’r radd hon yn rhoi i fyfyrwyr sylfaen yng nghredoau ac arferion ystod eang o grefyddau.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio BA Astudiaethau Crefyddau yn datblygu dealltwriaeth o rôl crefydd yn y byd ac astudio tarddiad a datblygiad traddodiadau crefyddol, gan gynnwys Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindŵiaeth, Bwdhaeth a Siciaeth.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am Ragor o Wybodaeth

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser):£9,000y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser):£13,500y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Ystod eang o fodylau ar bynciau perthnasol fel natur crefydd, y traddodiadau Abrahamaidd, neu gysyniadau crefyddol o rhyw a chenedl.
  • Modylau seiliedig ar arbenigedd ymchwil nodweddiadol darlithwyr mewn profiad crefyddol neu fudiadau crefyddol newydd.
  • Addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un.
  • Lle i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd i ddilyn eich diddordebau eich hunan.
  • Cyfle i gyfuno eich astudiaethau gyda modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein rhaglen BA Astudiaethau Crefyddol yn galluogi myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â nodweddion traddodiadau crefyddol ac i gymharu credoau ac arferion crefyddau gwahanol, yn enwedig yng nghyd-destun byd sy’n dod i delerau â’i amrywiaeth diwylliannol a chrefyddol.

Bwriad y rhaglen hon yw ennyn chwilfrydedd a diddordeb yn yr amrywiaeth o ddiwylliannau crefyddol ar draws y byd ac i ddeffro ymwybyddiaeth gynyddol o blwraliaeth o fewn traddodiadau crefyddol ac o fewn cymdeithasau yn gyffredinol. Mae hyn yn rhoi gwir ddirnadaeth i fyfyrwyr o’r cyflwr dynol a’r lluosogrwydd o gredoau ac arferion crefyddol sydd yn y byd.

Pynciau Modylau

Mae’r radd Astudiaethau Crefyddol hon yn ffocysu’n bennaf ar grefydd yn y byd cyfoes, gan gydnabod arwyddocâd crefydd wrth siapio hanes.

Mae’r rhaglen yn edrych ar grefyddau penodol, gan amlygu gwahanol themâu y mae crefydd yn dylanwadu arnynt neu’n chwarae rhan ynddynt.

Caiff crefyddau’r byd eu harchwilio ar ffurf crefyddau Abrahamaidd a thraddodiadau Asiaidd yn ogystal â chrefyddau brodorol, gyda ffocws arbennig ar De America, yn ogystal â’r mudiadau crefyddol ac ysbrydolrwydd amgen newydd a ddaeth i’r amlwg yn y Gorllewin o ganol yr 20fed ganrif ymlaen.

Byddwch yn astudio pynciau fel:

  • Sgiliau Digidol
  • Gallu i ymgyfaddasu
  • Cyfathrebu
  • Creu portffolios
  • Meddwl yn greadigol
  • Meddwl yn feirniadol
  • Gwneud cyflwyniadau
  • Datrys problemau
  • Rheolaeth prosiect
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Hunan-fyfyrio
  • Gwaith tîm a chydweithredu gyda chyd-fyfyrwyr
  • Defnyddio technegau amlgyfrwng
  • Gweithio’n annibynnol
  • Gweithio i derfynau amser

Sylwer, fe all y pynciau hyn amrywio ychydig o flwyddyn i flwyddyn oherwydd newidiadau o ran staff, datblygu’r cwricwlwm ac argymhellion yn sgil dilysu.

Asesiad

Caiff y rhaglen ei hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o'r mathau a ganlyn o asesiad:

  • traethodau 1,000 i 4,000 o eiriau;
  • dadansoddi dogfennau;
  • adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion
  • adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol ;
  • profion amser ;
  • arholiadau a welir ac na welir ymlaen llaw;
  • dyddlyfrau maes ;
  • Posteri;
  • cyflwyniadau grŵp ac unigol;
  • traethodau hir 10,000 o eiriau;
  • wicis ;
  • sylwebaethau; a,
  • gwerthusiadau ffilm.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Rhaglenni a Digwyddiadau Llambed

Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd.

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

我asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer欧盟戴维·据悉, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae BA mewn Astudiaethau Crefyddol yn gymhwyster buddiol iawn o ran ymwneud â chymdeithas amlddiwylliannol, aml-ffydd.

Mae galw mawr am y radd hon gan gyflogwyr sy’n dymuno i’w staff ymwneud ag amgylchedd diwylliannol amrywiol. O ganlyniad, mae nifer o’n myfyrwyr yn cael swyddi ac yn datblygu gyrfaoedd yn y gwasanaethau cymdeithasol, cwnsela, nyrsio, plismona, tân ac achub.

Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i ddilyn cwrs TAR mewn Addysg Grefyddol gynradd neu uwchradd.

Mae myfyrwyr eraill yn ychwanegu at eu BA trwy ddilyn astudiaethau ôl-raddedig sy’n cynnwys agwedd ar grefydd o blith traddodiadau mawr y byd.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cael ei chydnabod yn eang am baratoi’i myfyrwyr ar gyfer byd gwaith. Cynigia’r uned Gwasanaethau Myfyrwyr raglen fywiog o weithgareddau yn gysylltiedig â chyflogaeth, ac mae’r Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd yn rheolaidd yn ddolen gyswllt i’w myfyrwyr i weithgareddau yn gysylltiedig â chyflogaeth a gymeradwyir gan y Brifysgol.

Mae’r arolwg Cyrchfannau Pobl sy’n Gadael Addysg Uwch (DLHE) yn cofnodi’n rheolaidd bod canrannau uchel o raddedigion o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith neu’n ceisio cymwysterau pellach chwe mis ar ôl graddio.

Yn arolwg DLHE 2016/17, roedd 96.8% o fyfyrwyr israddedig llawn amser y Brifysgol sy’n hanu o’r DU mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis wedi iddynt raddio.

Costau Ychwanegol

Gwneir amcangyfrifon gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol; ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith maes ddewisol:
Mae yna amrywiaeth o opsiynau i fynd ar waith maes a theithiau maes, yn lleol a rhyngwladol. Gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae cymhorthdal ar gyfer y rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail lleoliadau blaenorol.

  • Gwaith maes (yn amodol ar leoliad) – tua £500-£1,000; a,
  • Teithiau unigol - oddeutu £5-£50.
Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Fe allech fod yn gymwys am arian i helpu cefnogi’ch astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleodd ariannu eraill, ewch i’n hadranYsgoloriaethau a Bwrsariaethau. Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio'r cwrs drwy'r Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalenYsgoloriaethauCangen Y Drindod Dewi Sant o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Llety

Ewch i dudalenHafan Lletyam ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Os hoffech ddysgu rhagor, gallwch ymweld â ni arDdiwrnod Agored Llambed.