Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Meysydd Pwnc——Cyrsiau添加ysg Athrawon

Addysg Athrawon



Gwnewch wahaniaeth...addysgwch!

Y Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)

Cyflwynir Addysg Athrawon trwy Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Athrofa (PDPA).

Gydweithrediad gwirioneddol rhwng Yr Athrofa: Addysg a'r Dyniaethau ac ysgolion partner, mae PDPA wedi datblygu ar y cyd raglenni ar gyfer athrawon ar bob cam o’u bywyd proffesiynol – o athrawon dan hyfforddiant sy’n cychwyn ar eu gyrfa hyd at arweinwyr systemau sy’n rheoli newid.

Mae PDPA yn defnyddio model rhwydwaith arloesol er mwyn lleoli athrawon dan hyfforddiant, gyda 18 o Ysgolion Partner Arweiniol yn cefnogi rhwydweithiau ehangach o Ysgolion Partner.Ceir mwy o wybodaeth am yr ysgolion hyn, sydd wedi’u lleoli ar draws de Cymru

  • "Myfyrwraig aeddfed yn cyrraedd y brig wrth iddi ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth."Darllenwch fwy...

Athrofa accreditation

Cyntaf yng Nghymru - Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian.

Llwybr Israddedig i Addysgu
Llwybrau Ôl-raddedig i Addysgu

Dull newydd ac arloesol o addysgu athrawon

Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae pob un o’n rhaglenni addysg athrawon wedi’i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae hon yn safon ansawdd gydnabyddedig sy’n angenrheidiol er mwyn gallu addysgu yng Nghymru. Mae’r safon yn drosglwyddadwy ar draws y DU.

Logo of the Education Workforce Council.