Addysg Gymraeg ail iaith mewn Ysgolion cyfrwng-Saesneg Astudiaeth i archwilio i ba raddau y mae amodau dysgu’r rhaglen Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 yn gymwys i gynhyrchu siaradwyr yr iaith

Beard, Ashley Charlotte(2016)Addysg Gymraeg ail iaith mewn Ysgolion cyfrwng-Saesneg Astudiaeth i archwilio i ba raddau y mae amodau dysgu’r rhaglen Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 yn gymwys i gynhyrchu siaradwyr yr iaith.Doctoral thesis, University of Wales Trinity Saint David.

[img]
Preview
Text
Beard, A.C. (2016) Addysg Gymraeg ail iaith.pdf- Accepted Version
Available under LicenseCreative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (2MB)|Preview

    Abstract

    Diben yr astudiaeth hon oedd ymchwilio’r ddarpariaeth iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng-Saesneg, Cyfnodau Allweddol 2 a 3 er mwyn dirnad i ba raddau y gall gynhyrchu siaradwyr Cymraeg. Agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymru ddwyieithog a ysgogodd y gwaith ymchwil hwn. Ymhellach, rhydd pwyslais y Cwricwlwm Cenedlaethol ar sgiliau llafaredd, ynghyd ag argymhelliad parhaus Estyn a Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau cyfathrebol y disgyblion gyd-destun i’r astudiaeth. Gosodwyd y gwaith ymchwil o fewn fframwaith cysyniadol yn seiliedig ar egwyddorion dysgu ac addysgu ail iaith y Cyrchddull Cyfathrebol cyfredol. Cyfraniad gwreiddiol y gwaith ymchwil hwn i’r maes dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith yw dangos bod y ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgolion a gyfranogodd yn pwyso’r glorian ar ochr dulliau addysgu ail iaith traddodiadol; dulliau sydd yn arwain at anghyseinedd ymarferol ac, o ganlyniad, wedi tanseilio ffydd yn eu cymhwysedd i ddatblygu siaradwyr. Arsylwyd mewnbwn ieithyddol a oedd wedi’i gyfyngu i eirfa a strwythurau iaith ynysedig ac a oedd, ar y cyfan, yn camgynrychioli natur yr iaith darged. Tueddai ymarferion llafar ddatblygu o ymarferion mecanyddol i gyfnewidiau trafodaethol gyda diffyg pwyslais ar ddefnydd iaith at ddibenion ystyrlon. Dadleuir nad oedd y mewnbwn ieithyddol, y deunyddiau dosbarth na’r gweithgareddau yn cyfrannu at ddatblygu hunaniaeth ddiwylliannol na sgiliau cyfathrebol y disgyblion. Cynigia’r gwaith ymchwil hwn fewnwelediad gwerthfawr i wersi Cymraeg drwy astudiaeth feintiol fanwl o nodweddion yr addysgeg a fabwysiedir i addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng-Saesneg. Yn sgil adolygiad Dyfodol Llwyddiannus Donaldson (LlC, 2015a) o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru ddwyieithog, gall canlyniadau’r ymchwil hwn gyfrannu at sicrhau nad yw’r un addysgeg Gymraeg ail iaith yn parhau o dan gyfundrefn ‘ddiwygiedig’.

    Item Type: Thesis (Doctoral)
    Uncontrolled Keywords: Welsh language. Study and teaching (English speakers) English medium schools
    Subjects: L Education > LC Special aspects of education
    Divisions: Theses and Dissertations > Doctoral Theses
    Depositing User: Sandra Stedman
    Date Deposited: 04 Dec 2017 12:45
    Last Modified: 04 Dec 2017 12:45
    URI: http://repository.www.guaguababy.com/id/eprint/808

    Actions (login required)

    View Item View Item