Curo'n Hyderus ar y Drws Tri Enw

Hopwood, Mererid(2017)Curo'n Hyderus ar y Drws Tri Enw.Wales Journal of Education, 19 (1). pp. 69-89. ISSN 2059-3708

[img] Text
Curo'n Hyders ar y Drws Tri Enw.Hopwood.docx- Accepted Version
Available under LicenseCreative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives.

Download (62kB)
    Official URL:https://www.uwp.co.uk/journal/cylchgrawn-addysg-pr...

    Abstract

    Crynodeb Yn ystod Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau, Awst 2016, lansiwyd dogfen ymgynghorol newydd yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth gyrchu’r nod o ddyblu’r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn yr ymgynghoriad, nodir addysg fel un o brif gerbydau’r daith, gyda newid agweddau at y Gymraeg (drwy ‘normaleiddio’) hefyd yn beiriant allweddol. Yn rhifyn diwethaf y cyfnodolyn hwn, datganodd Gwyn Lewis ei siom nad oedd y Gymraeg yn Dyfodol Llwyddiannus yn cael ei hystyried yn ddim mwy na ‘phwnc yn y cwricwlwm - yn hytrach nag yn gyfrwng dysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm’. Yn yr erthygl hon, gan edrych tuag at y ‘Miliwn o Siaradwyr’, ystyrir pa fath o newidiadau cadarnhaol y gellid eu hysgogi drwy fabwysiadu agwedd fwy cwmpasog at iaith, un sy’n ei rhyddhau o hualau’r meddylfryd sgìl-ganolog. Ail-ymwelir â Dyfodol Llwyddiannus gan amlygu potensial y Gymraeg i chwarae rhan allweddol tu hwnt i’r Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a ddisgrifir gan Donaldson; gwelir cyfle na ddylid ei golli i fabwysiadu dwyieithrwydd y genedl fel asiantaeth all fynd ymhell tuag at gyflawni ‘pedwar diben’ craidd y cwricwlwm newydd. Geiriau Allweddol: Addysgeg, Amlieithrwydd, Creadigrwydd, Cwricwlwm, Diwylliant, Dwyieithrwydd, Dyfodol Llwyddiannus, Hunaniaeth, Iaith.

    Item Type: Article
    Uncontrolled Keywords: Addysgeg, Amlieithrwydd, Creadigrwydd, Cwricwlwm, Diwylliant, Dwyieithrwydd, Dyfodol Llwyddiannus, Hunaniaeth, Iaith.
    Subjects: L Education > LB Theory and practice of education
    L Education > LB Theory and practice of education > LB2361 Curriculum
    Divisions: 院校>教育学院and Humanities > Academic Discipline: Teacher Education
    Depositing User: Mererid Hopwood
    Date Deposited: 11 Nov 2019 10:49
    Last Modified: 19 Apr 2023 16:15
    URI: https://repository.www.guaguababy.com/id/eprint/673

    Actions (login required)

    View Item View Item