Yn ymdrechu i ymgysylltu; bob amser yn arloesol
Mae ymchwil y Brifysgol yn cwmpasu disgyblaethau peirianneg, gwyddor gymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau. Yn ymdrechu i ymgysylltu, bob amser yn arloesol, mae’n aml yn rhyngddisgyblaethol ac yn gydweithredol o ran ei natur.
Mae ein Strategaeth Ymchwil ac Arloesi 2022-2027 yn canolbwyntio ar naw maes blaenoriaeth:
- Rhagoriaeth Ymchwil:cynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil darganfod a yrrir gan chwilfrydedd ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd diffiniedig.
- Cenhadaeth Ddinesig:cymryd rhan mewn prosiectau, mentrau neu feysydd gweithgarwch sy’n hyrwyddo neu’n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru a thu hwnt.
- Arloesi:trosi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles.
- Cydweithio:creu partneriaethau trwy gydweithio ag ymchwilwyr, busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i rannu rhagoriaeth a chyflawni effaith ymchwil.
- Sgiliau Lefel Uchel, DPP a Dysgu Gydol Oes:darparu rhaglenni lefel uwch wedi’u seilio ar ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu a chymdeithas wydn.
- Adfywio Rhanbarthol:cefnogi twf, lles a ffyniant yn y rhanbarth.
- Masnacheiddio a Chynhyrchu Incwm:cymorth i fusnesau sy’n cyrchu cymorth ariannol ar gyfer arloesi mewn cydweithrediad â’r Brifysgol.
- Ymchwil Ôl-raddedig:darparu seilwaith o safon fyd-eang i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
- Pobl:ein hymrwymiadau i gymell, cefnogi a gwobrwyo staff am ragoriaeth mewn ymchwil ac arloesi.
Ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil yw bod ein hymchwilwyr, a’r gwasanaethau proffesiynol sy’n eu cefnogi, yn gyrru arloesi: y broses sy’n troi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles. Dyma’r weledigaeth a fydd yn gyrru lles ac yn addasu i gyfleoedd a heriau newydd.
DarllenwchGrynodeb Gweithredol Strategaeth Ymchwil ac ArloesiY Drindod Dewi Sant.
Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil(Research Excellence Framework (REF) 2021) yn dangos bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynhyrchu ymchwil rhyngwladol sy’n rhagorol ac o’r radd flaenaf.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo ei hun i gadw safonau uchel, o ran yr ymchwil yr ymgymerir ag ef gan ei staff a’i myfyrwyr, pe bai hwnnw’n cael ei gefnogi’n uniongyrchol gan y Brifysgol neu ei ariannu gan ffynonellau allanol.
Mae’r Brifysgol yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ar gyfer astudiaethau Meistr a Doethurol ar draws pob un o’i meysydd pwnc, Cyfadrannau ac Ysgolion. Mae cyfleoedd ar gael i astudio am radd ymchwil ar bob campws yn Llambed, Caerfyrddin, Abertawe a Llundain, neu fel arall, drwy ddysgu o bell.
Mae datblygiad ymchwilwyr yn Y Drindod Dewi Sant wedi’i alinio â’rConcordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr.Dysgwch ragor是贝斯美或协定yn ei olygu i chi ynghyd â manylion sgiliau sy’n benodol i ymchwil a chyfleoedd datblygu.
Ymchwilio i feysydd seicoleg gymhwysol ac arbrofol.
Wedi海基会(胡)ydlu yn 1822, mae Llambed yn enwog am ei thraddodiad ymchwil, nid dim ond o ran persbectif rhyngwladol, ond mae hefyd yn mynd i’r afael â phryderon cyfoes drwy gynnal ymchwil mewn diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol, hanes, y clasuron, archeoleg, anthropoleg ac athroniaeth.
Ymchwil a gynhelir yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies - CAWCS) wedi’i seilio ar ieithoedd, llenyddiaeth, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.
Ymchwilio i ymarferion cyfoes y celfyddydau; y diwydiannau creadigol; dylunio ar gyfer gwyddor bywyd, iechyd a llesiant.
Ymchwilio i’r meysydd Rhwydweithio cyfrifiadurol; Profion anninistriol; modelu cyfrifiadurol; peirianneg cynnyrch.
Gweithgaredd ymchwil sy’n ymwneud ag addysg, dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ieithoedd, llythrennedd ac amlieithrwydd, llythrennedd corfforol ac ymarfer proffesiynol cymhwysol.
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cynnig amrywiaeth o gymorth arbenigol i academyddion a myfyrwyr ymchwil. Dewch o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyhoeddi mynediad agoreda rheoli data ymchwil yma.
Mae INSPIRE, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cysylltu staff, myfyrwyr a chanolfannau gwybodaeth y Brifysgol â busnesau, sefydliadau a chymunedau er mwyn cael effaith ar gymdeithas sy’n gynaliadwy ac sydd o fudd i bawb.
Mae’r Rhaglen Cyflymu Ymchwil ac Effaith (Research and Impact Accelerator Programme (RIAP)) yn bodoli er mwyn cefnogi Strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd y Brifysgol. Mae chwe llwybr ariannu ar gael ynghyd â manylion a ffurflenni gwneud cais ar y dudalen RIAP.
Mae grantiau teithio ymchwil Taith yn cefnogi costau teithio a chostau byw staff academaidd a thechnegol sy’n ymwneud â neu’n cynnal ymchwil, ynghyd ag ymchwilwyr ôl-raddedig a seilir yng Nghymru sydd eisiau teithio dramor i fynd ar leoliad neu elwa o gyfleoedd rhwydweithio.
Mae canolfan BRIDGES UNESCO yn PCYDDS, un o bump canolfan yn fyd-eang, yn hyrwyddo ymchwil, addysgu a mentrau sy’n defnyddioGwyddor Cynaliadwyeddi chwilio am atebion cyfiawn a pharhaol i broblemau cyfredol.