Y Brifysgol yn Datblygu Prentisiaeth Newydd mewn Gwydr Lliw i Achub Crefft dan Fygythiad


21.09.2023

Mae prentisiaeth newydd wedi’i datblygu trwy gydweithrediad rhwng sefydliadau, wedi i ymchwil ddangos dirywiad pryderus yng nghrefft draddodiadol gwydr lliw.

Eleni (2023), fe wnaeth y Gymdeithas Crefftau Treftadaeth roi crefft gwneud ac adfer ffenestri lliw traddodiadol ar raddfa fawr ar Restr Goch y Crefftau dan Fygythiad.

Wrth i’r farchnad ar gyfer comisiynau newydd leihau a demograffeg yr ymarferwyr heneiddio, ac wrth i gostau gynyddu a’r cyfleoedd leihau ar gyfer hyfforddiant ffurfiol, mae pryderon gwirioneddol ymhlith ymarferwyr am ddyfodol y grefft.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, daeth Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cymdeithas Prif Beintwyr Gwydr Prydain, Cwmni Anrhydeddus y Gwydrwyr, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant at ei gilydd i lenwi’r bwlch.

Gyda’i gilydd, maen nhw wedi datblyguPrentisiaeth Crefftberson Gwydr Lliwnewydd sbon a ariennir gan y llywodraeth, gyda’r Drindod Dewi Sant yn darparu hyfforddiant a’r Sefydliad Cadwraeth (ICON) yn cynnal yr asesu terfynol. Bydd prentisiaid yn astudio yn y Drindod Dewi Sant mewn blociau dros dair blynedd, gan ddilyn hyfforddiant mewn ystod gynhwysfawr o dechnegau crefft gwydr lliw.

Bydd Iechyd a Diogelwch hanfodol a COSHH yn cael eu hymgorffori yn y rhaglen, ochr yn ochr ag amrywiaeth o brosesau addurniadol gan gynnwys peintio gwydr, staenio, enamlo, ysgythru ag asid, sgwrio â thywod a boglynnu Ffrengig. Cyflwynir prentisiaid i ddylunio, herodraeth, llythrennu a hanes gwydr lliw i roi gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach iddynt o’r grefft.

Mae paratoadau ar y gweill i groesawu’r garfan gyntaf o brentisiaid newydd ym mis Tachwedd 2023.

Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o baneli, cartwnau a dyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.

Bydd y prentisiaid wedi’u lleoli yn Adeilad ALEX y Drindod Dewi Sant, cartref gwreiddiol yr adran gwydr lliw, lle bydd ganddynt fynediad i weithdai a chyfleusterau gwydr o ansawdd uchel.

Meddai Christian Ryan, Swyddog Cyswllt y Brentisiaeth Gwydr Lliw yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’r rhaglen hon yn ddatblygiad arwyddocaol ym mharhad hyfforddiant gwydr lliw, ac mae’n gyfle arbennig i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr.

“Gyda gwaith caled a dyfalbarhad pawb dan sylw, a chymorth y gymuned gwydr lliw, rydym yn gobeithio y gellir tynnu gwydr lliw o Restr Goch y Crefftau dan Fygythiad yn fuan, ac y bydd y wybodaeth a’r sgiliau arbenigol yn parhau i gael eu trosglwyddo yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Christian ar:c.ryan@www.guaguababy.com

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email :ella.staden@www.guaguababy.com

Ffôn |Phone :07384467078