Roedd uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru PCYDDS yn llwyddiant enfawr


22.09.2023

Cynhaliodd MADE Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ei Huwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru 2023 yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf.

Gan adfyfyrio ar lwyddiannau’r blynyddoedd blaenorol, daeth yr Uwchgynhadledd â thros 100 o fusnesau, rhanddeiliaid a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol at ei gilydd i ddathlu sector gweithgynhyrchu ffyniannus Cymru.

Hefyd, nododd y digwyddiad ddiwedd cyfnod cyfredol MADE Cymru oherwydd diwedd cyllid yr UE a thaflodd oleuni ar gynlluniau’r prosiect i’r dyfodol.

Cymerodd y rheiny a fynychodd y digwyddiad weithdai rhyngweithiol a chinio rhwydweithio ar Gampws Glannau SA1 PCYDDS.

Gwnaeth y gweithdai fynd i’r afael â themâu fel rheoli arloesi, digidoleiddio, a chipio data. Yn ogystal, cyflwynwyd y rhai a oedd yn bresennol i’r Ystafell Drochol yn PCYDDS. Mae’r ystafell hon yn cynnwys y sgriniau LED Samsung diweddaraf ar dair ochr, gan gynnig profiad defnyddiwr realiti rhithwir ac estynedig cynhwysfawr.

Adborth am Uwchgyfarfod Diwydiant MADE Cymru:

“Mae tîm MADE PCYDDS yn darparu cyswllt hanfodol rhwng byd addysg a busnes lleol. Yn arddangos technoleg a ffordd o feddwl arloesol tu ôl i gynhyrchiant gweithgynhyrchu uwch. Bu’n bleser mynychu’r digwyddiad diweddaraf. Mae’n gyfle gwych bob tro i rwydweithio gyda gweithgynhyrchwyr eraill a mynychu’r gweithdai craff.” -Vince Minchella, Rheolwr Masnachol, Avon Engineered Rubber Ltd.

“Bu’n bleser ac yn fraint dod â’m tîm i ddigwyddiad MADE Cymru ar ddydd Llun yn PCYDDS. Yn bartner academaidd, mae PCYDDS yn dangos dro ar ôl tro ei bod yn deall ac yn cymryd camau mewn ffordd ymarferol ac amserol i gefnogi gweithgynhyrchu mewn byd sy’n newid. Mae ansawdd y cyfleusterau, perthnasedd diwydiannol y ffocws, a phroffesiynoldeb staff, ynghyd â brwdfrydedd diddiwedd i bob golwg am estyn allan i afael dwylo gyda diwydiant yn gosod PCYDDS uwchben pawb arall, ac rydym yn hapus ac yn falch i fod yn bartneriaid diwydiannol gyda’r tîm.” -Patricia Mawuli Porter OBE, Metal Seagulls.

“Hoffwn ddiolch i chi a’r tîm unwaith eto am y cyfle a roddwyd i ni yn PLATCON Ltd. I gyflenwi ac arddangos y gell arolygi roboteg yng nghampws PCYDDS. Bu’n brosiect llawn mwynhad i ni gyd. Hefyd, rwyf wir wedi mwynhau Rhaglen Diwydiant 4.0 MADE ac wedi ennill sgiliau ychwanegol o ganlyniad i’r astudiaethau hyn.” -Stephen Vincent, Cyfarwyddwr Technegol, PLATCON Ltd.

Diwrnod gwych yn Uwchgyfarfod Diwydiant经营户2023 yn PCYDDS. Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn ddiddorol go iawn yn trafod yr Hwb Data Gweithgynhyrchu Clyfar, wedi’i ddilyn gan arddangosiad byw i’r Ystafell Drochol newydd (anhygoel!). Daeth y diwrnod i ben gyda sesiwn ryngweithiol i drafod popeth sy’n ymwneud ag arloesi – pobl, diwylliant, strategaeth, arweinyddiaeth, adrodd straeon – dan arweiniad Chris Probert a Lowri Roberts. Yn fyfyriwr MADE Cymru presennol yr hyn a garais fwyaf oedd y darnau yn y canol, cyfle i drafod gyda phobl eraill oedd yno, cyn-fyfyrwyr, aelodau’r tîm MADE a chysylltiadau diwydiant. Diwrnod ysbrydoledig yn wir – alla’i ddim aros i fwrw ‘mlaen â’m hastudiaethau pellach.” -Alan Fairbank, Rheolwr Marchnata a Recriwtio, ION Leadership.

“Diwrnod gwych gyda gweithdai a thrafodaethau arbennig, cyfleoedd i gyflwyno’ch hun a gwneud cysylltiadau newydd yn ystod y sesiynau rhwydweithio. Diolch i bob siaradwr a chyfranogwr. Da iawn i bawb a gymerodd ran a diolch arbennig i dîm MADE Cymru a PCYDDS am wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant.”- Nic Goddard, Prif Beiriannydd Diwydiant 4.0, Safran Seats.

Nodyn i'r Golygydd

Hanes MADE Cymru

Mae MADE Cymru, menter a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan PCYDDS, wedi bod yn biler o gymorth i’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae wedi grymuso’r diwydiant gydag ymchwil a datblygu, ac amrywiaeth o gyfleoedd i uwchsgilio. Mae wedi cydweithio ar 23 o fentrau ymchwil a datblygu gyda 17 o sefydliadau, wedi cefnogi 23 o gynnyrch newydd i’r farchnad a chreu miliynau o bunnoedd o effaith i fusnesau. Hefyd, mae dros 300 o bobl o bob cwr o Gymru wedi bod yn astudio ar raglenni rhan amser.

Mae ail ddigwyddiad wedi’i gynllunio yn Llanelwy ar 28ainMedi.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email :ella.staden@www.guaguababy.com

Ffôn |Phone :07384467078