Mae cydweithio’n allweddol, meddai’r fforwm polisi rhyngwladol cyntaf ar iechyd digidol


11.09.2023

Mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol os yw gwledydd am ddefnyddio grym technolegau newydd a tharfol i hyrwyddo iechyd digidol ar y cyd ar gyfer eu dinasyddion, meddai arbenigwyr. Mae’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, ymhlith uwch weithwyr proffesiynol o faes gofal iechyd, ymchwil a’r diwydiant sydd wedi galw am fwy o rôl i fentrau trawsffiniol sydd â safonau byd-eang a llwybrau manyleb yn sail iddynt.

Professor Dearing attended the first International Policy Forum for digital health, held over two days as part of global digital health and informatics congress MedInfo23 in Sydney, Australia, which brought together a wide range of senior executives from governments, international VIPs, ministerial delegations, as well as senior representatives from industry and the scientific community.

Aeth yr Athro Dearing i’r Fforwm Polisi Rhyngwladol cyntaf ar gyfer iechyd digidol, a gynhaliwyd dros ddeuddydd yn rhan o gyngres y byd ar iechyd digidol a gwybodeg, MedInfo23, yn Sydney, Awstralia. Daeth y gyngres ag ystod eang o uwch swyddogion gweithredol at ei gilydd o lywodraethau, pobl bwysig iawn rhyngwladol, dirprwyaethau gweinidogol, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o’r diwydiant a’r gymuned wyddonol.

Meddai’r Athro Dearing: “Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni iechyd digidol yn gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’. Rydym wedi galw gweithwyr proffesiynol y diwydiant i mewn i weithio ochr yn ochr â’n tîm academaidd ac rydym yn parhau i archwilio a datblygu cysylltiadau pellach. Gwnawn hyn er mwyn darparu’r adnoddau i’n myfyrwyr ddatblygu eu harbenigedd unigryw i feithrin diwylliant o gynhwysiant, gan ddefnyddio eu sgiliau digidol a data i barhau i gyflwyno gwasanaeth iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’n dinasyddion.”

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Drindod Dewi Sant aPhrifysgol Ajeenkya D Y Patil(ADYPU) yn India lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gyfnewid arbenigedd ym maes technoleg a systemau gofal iechyd.

Bydd y bartneriaeth rhwng y prifysgolion yn arwain at gyflwyno rhaglenni technoleg iechyd ôl-raddedig yn ADYPU gyda’r nod o greu gweithwyr technoleg iechyd proffesiynol i gyfrannu tuag at ddarparu gofal iechyd cost-effeithiol yn India.

Mae arbenigedd Sefydliad Arloesi Digidol Cymru (WIDI), a ddatblygwyd gan y Drindod Dewi Sant ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn ganolog i’r bartneriaeth. Ymhlith y meysydd sy’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd y mae ymchwil ac arloesi, cyfnewid myfyrwyr a staff, a datblygiad proffesiynol. Mae cydweithrediadau tebyg hefyd ar y gweill gyda phrifysgolion yn Awstralia a St Louis yn yr Unol Daleithiau.

Cynhaliwyd y fforwm ar y cyd gan y Gymdeithas Gwybodeg Feddygol Ryngwladol (IMIA) a Sefydliad Iechyd Digidol Awstralasia, gyda nifer fawr o gyfranogwyr rhanbarthol a byd-eang yn cynrychioli’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Yn eiHysbysiad cyhoeddus a gyhoeddwyd yr wythnos hon, rhagfynegodd y fforwm polisi gynnydd esbonyddol mewn galw defnyddwyr am wybodaeth i gynorthwyo gwneud penderfyniadau personol am iechyd a gofal. Dywedodd fod darpariaeth gofal iechyd yn parhau i esblygu mewn byd digidol, a bod gan lywodraethau gyfrifoldeb i sicrhau ei hansawdd a’i heffeithiolrwydd.

“Mae trawsnewidiad tarfol gofal iechyd yn rhoi pwynt tyngedfennol i lywodraethau ddilyn llwybr gwahanol i’r gorffennol. Yn awr, ceir cyfle unigryw i ymateb i’r tarfu hwn mewn ffordd amserol, gydweithredol, a phwyllog a chreu llwybrau rheoleiddiol a pholisi cynaliadwy ar gyfer cyfnod gofal iechyd newydd.”

Galwodd y fforwm ar arweinwyr gofal iechyd i fod yn “feiddgar, radical, a dal ati,” gan ddweud fod gan wledydd heriau cyffredin yr oedd angen mynd i’r afael â nhw.

“Rhaid i arweinwyr ar draws gofal iechyd wneud penderfyniadau anodd, megis mynd i’r afael â heriau o ran gweithlu, newid ymddygiadau, cyflwyno rheoliadau galluogi blaengar a sicrhau bod y system gofal iechyd yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio gan ddefnyddio technoleg ddigidol.”

Roedd angen i systemau gofal iechyd gyflawni gwybodaeth gofal iechyd mwy cyflawn, dibynadwy a hygyrch drwy safonau sy’n gwella’r gallu i ryngweithredu. Byddai hyn yn ysgogi profiadau gofal iechyd gwell, yn integreiddio gofal, ac yn cefnogi hawliau dinasyddion i gael mynediad i’w gwybodaeth gofal iechyd.

“Fel arweinwyr yn y sector iechyd digidol rhyngwladol, mae’n angenrheidiol ein bod ni’n creu momentwm, gan weithio ar y cyd i weithredu newid ystyrlon, cefnogi’r gwaith o gyflwyno technolegau arloesol yn ddiogel, a darparu canlyniadau gofal iechyd gwell i bawb.”

Roedd y drafodaeth bolisi eang yn ymdrin â datblygiadau megis cyflwyno deallusrwydd artiffisial (AI), gan ddweud bod angen integreiddio AI yn ofalus â systemau gofal iechyd presennol er mwyn sicrhau bod tegwch iechyd yn cael ei gynnal a bod systemau’n parhau’n ddiogel ac yn ddibynadwy.

“Mae hyn yn gofyn am strwythurau llywodraethu sydd ag awdurdod digonol, wrth fod â’r gallu i addasu i alluoedd technoleg sy’n newid yn gyflym hefyd.”

Professor Wendy Dearing, Dean of the Institute of Management and Health is among senior healthcare, industry and research professionals who have called for a greater role for cross-border initiatives underpinned by global standards and specification pathways.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau或Wasg或Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@www.guaguababy.com