Darlithydd Newydd yn Ennill Gwobr Celf Gain


22.09.2023

Mae darlithydd sydd newydd ei benodi yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill gwobr am ei gyflwyniad i arddangosfa fawreddog.

Ymunodd Holly Slingsby â thîm addysgu’r Drindod Dewi Sant yn ddiweddar fel darlithydd mewn Celf Gain, gan gyfnewid Margate am dde Cymru i barhau â’i gyrfa lwyddiannus a’i harfer artistig ar ôl gweithio yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Gelf Winchester.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ei bod wedi ennill Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg yn Oriel Phoenix yn Nyfnaint.

Arddangosfa flynyddol yw Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg, sy’n cynnwys detholiad bychan o waith wedi’u dewis o blith cannoedd o gynigion a gyflwynir gan artistiaid o bob rhan o’r DU. Mae’n un o brif uchafbwyntiau calendr diwylliannol De Orllewin Lloegr ac mae’n sbardun hanfodol ar gyfer gyrfaoedd egin artistiaid cyfoes.

Dewiswyd gwaith Holly, ochr yn ochr â gwaith 13 artist arall, gan Gemma Lloyd (Curadur Annibynnol), Judith Carlton (Cyfarwyddwr Southwark Park Galleries) a Churadur Oriel Phoenix, Matt Burrows. Roedd pob un o’r artistiaid a oedd yn arddangos eu gwaith yn gymwys i ennill Cronfa Gwobr 2023, Gwobr Ychwanegol a gwobr Dewis y Gynulleidfa.

Gan nad oedd y面板beirniadu’gallu戴维·联合国enillydd cyffredinol ac un enillydd ychwanegol, penderfynodd ddathlu’r tri artist mwyaf eithriadol o restr fer hynod safonol, sef Holly Slingsby, Anna Brass a Richard Phoenix. Rhannwyd cronfa Gwobr 2023 yn gyfartal rhyngddynt.

Perfformiad fideo yw gwaith buddugol Holly (llun uchod), o’r enwAn Enclosed Garden, sy’n cyfuno’r profiad a rennir o arddio yn ystod y cyfnod clo gyda ffigurau ar wahân: Penelope Homer, y feudwyes Julian o Norwich, yr abades Hildegard von Bingen a’r Forwyn Fair.

Wedi’i ffilmio mewn pedair gardd yng Nghaint, mae’r darn yn ennyn ymdeimlad o erddi perlysiau mynachaidd a phaentiadau canoloesol wrth archwilio perthnasedd y menywod hyn fel symbolau o fyfyrdod unig. Mae tomenni compost wedi’u cynnwys i’n hatgoffa o bosibilrwydd cynhyrchu rhywbeth newydd o weddillion o’r gorffennol sydd wedi’u bwrw o’r neilltu.

Dywedodd Holly: “Rwy’n falch iawn o fod yn un o enillwyr Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg 2023. Mae arddangosfa eleni’n cynnwys detholiad gwych o waith ac mae’n bleser mawr cael fy nghynnwys a’m cydnabod yn y cyd-destun hwn. Rwy’n ddiolchgar i’r detholwyr, Gemma Lloyd, Judith Carlton a Matt Burrows am eu cefnogaeth i’m harfer.”

Meddai’r Athro Sue Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Celf Gain yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr cael yr artist Holly Slingsby i ymuno â’n tîm Celf Gain. Mae ei hygrededd artistig yn ychwanegu haen bwysig arall o arbenigedd ac arfer at ein tîm sydd eisoes ar sail gadarn yn rhyngwladol. Mae’n newyddion ardderchog bod Holly yn un o enillwyr Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg 2023.”

Mae Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn y safle 1afyng Nghymru ac yn yr 21ainsafle yn y DU ar hyn o bryd ar gyfer eirhaglenni Celf Gain(Tablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian, 2023-24).

Mae’r arddangosfa yn埃克塞特Phoenixar agor tan ddydd南5edTachwedd, a gallwch archwilio gwaith Holly arwww.hollyslingsby.comneu@hollyslingsby.

Nodyn i'r Golygydd

Bywgraffiad:

Mae Holly Slingsby (ganed ym 1983, y DU) bellach wedi’i lleoli yn Abertawe. Astudiodd yn Ysgol Arlunio a Chelf Gain Ruskin, Prifysgol Rhydychen, ac yn Ysgol Gelf Slade, Llundain.

Mae Slingsby wedi cael arddangosiadau a pherfformiadau unigol ar draws y DU a ledled y byd. Yn 2018, cyhoeddodd lyfr artist gyda Publication Studio London a The Bower.

Credyd Delwedd:

1-2: Holly Slingsby,An Enclosed Garden,2021. Fideo HD gyda sain. Llun llonydd cynhyrchiad gan Jordan Mary.

3: Tynnwyd y portread o Slingsby gan Sam Roberts.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email :ella.staden@www.guaguababy.com

Ffôn |Phone :07384467078