Creu perthynas ryngwladol o raglen Sylfaen Gymreig
18.10.2023
Mae gwaith ffotograffiaeth Hannah Davies, Cyn-fyfyriwr diweddar o’r cwrsCelf a Dylunio Sylfaenyng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cael ei ddewis yn rhan o arddangosfa fyd-eang yn India.
Yn cynrychioli cwrs Sylfaen y Drindod Dewi Sant, mae gwaith Hannah yn ymddangos yn rhan o arddangosfa Diwrnod Cyanoteip y Byd sy’n arddangos yn Chennai, India, ac a gynhelir gan Biennale Ffotograffau Chennai (CPB). Mae ei gwaith i’w weld ochr yn ochr â gwaith artistiaid o bob rhan o’r byd.
Ar ôl cwblhau ei chwrs Sylfaen, dewisodd Hannah barhau â’i hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant ac mae hi bellach yn fyfyriwr Ffotograffiaeth Ddogfennol yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Celf Abertawe.
Meddai Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Celf a Dylunio Sylfaen yn y Drindod Dewi Sant: “Fe wnaeth myfyrwyr Sylfaen y llynedd arddangos gwaith yn rhan o’r Biennale Ffotograffau Rhyngwladol yn India, a oedd yn cynnwys y prosiectCommunities of Choice.
“Prosiect cydweithredol India-Cymru ywCommunities of Choicerhwng Sefydliad Biennale Ffotograffau Chennai a Ffotogallery yng Nghymru, y mae’r Drindod Dewi Sant yn gosod y tasgau ar ei gyfer i artistiaid ymateb iddynt.
“Fe wnaeth myfyrwyr o’n cwrs Sylfaen ni, gan gynnwys Hannah, ac o brifysgol yn India, ymateb i’r briff a osodwyd gennym yng Ngholeg Celf Abertawe, a chafwyd cyfnewid diwylliannol-creadigol hyfryd yn sgil hynny.”
Meddai Sagithya B, curadur Diwrnod Cyanoteip y Byd: “Diolch [Hannah] am gymryd rhan yn Arddangosfa Diwrnod Cyanoteip y Byd ac am anfon dy brintiau hardd. Rydym yn falch iawn o ddweud fod y printiau wedi’u gosod ochr yn ochr â gwaith gan artistiaid dawnus o bob rhan o’r byd. Mae’r gosodiad a’r sioe wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan ymwelwyr.”
Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein bodd fod Hannah wedi cael ei dewis ar gyfer yr arddangosfa ryngwladol hon. Mae ein rhaglen Tyst AU Sylfaen Celf a Dylunio’n rhoi profiadau dysgu gwych i fyfyrwyr a chyfle i wneud cysylltiadau rhyngwladol fel y rhain.
“Mae Hannah wedi mynd â’r wybodaeth a’r profiad hwn gyda hi ar ei rhaglen radd yn ein hadran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, sydd wedi’i rhestru yn 1afyng Nghymru gan y Guardian University Guide 2024”.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden BA (Anrh)
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Swyddfa或Is-Ganghellor
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | Abertawe
Ffôn:07384467078
E-bost:ella.staden@www.guaguababy.com