Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen yn y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW


07.09.2023

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi y bydd Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn Llambed, sy’n cadw casgliadau arbennig y Brifysgol, yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW.

The University of Wales Trinity Saint David is pleased to announce that the Roderic Bowen Library and Archives at Lampeter, housing the university’s special collections,  will be taking part in CADW’s Open Doors Festival.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 12:00pm - 4:00pm ddydd Sadwrn, 30 Medi ac mae’n rhan o ŵyl flynyddol a drefnir gan CADW. Mae’r ŵyl yn arddangos mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, nodweddion hynod a gemau cuddiedig yng Nghymru i’r cyhoedd ehangach, pan fydd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu hannog i agor eu drysau.

Yn y Casgliadau Arbennig yn Llambed mae casgliad o bwysigrwydd cenedlaethol o 35 000 o gyfrolau hanesyddol, gan gynnwys wyth llawysgrif ganoloesol a 69 o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500.

Yn ystod y digwyddiad, bydd detholiad o’r eitemau mwyaf diddorol yn y llyfrgell yn cael eu harddangos. Bydd y rhain yn cynnwys llawysgrif 1279 o’r Beibl Lladin, a oedd yn eiddo gynt i’r Esgob Thomas Burgess; dau lyfr oriau o’r 15fed ganrif; copi o atlas Abraham Ortelius, sy’n cynnwys y map argraffedig cyntaf o Gymru;Historiaanimaliumgan Conrad Gessner, gwyddoniadur astudiaethau natur diddorol iawn o’r 16eg ganrif; detholiad o lyfrau botanegol o’r 15fed i’r 18fed ganrif; amrywiaeth o lyfrau teithio sy’n gysylltiedig â fforwyr o’r 18fed ganrif, yn cynnwys Capten Cook; a detholiad o gyfrolau penseiri sy’n gysylltiedig â Thaith Fawr Ewrop.

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae hwn yn gyfle arbennig i bobl weld beth sydd mor ‘arbennig’ am y Casgliadau Arbennig. Rydym ni mor lwcus yn y Drindod Dewi Sant bod nifer o drysorau syfrdanol gennym ni ac edrychwn ymlaen at eu rhannu nhw â’r gymuned ehangach. Gobeithio byddan nhw’n ennyn cyffro a chwilfrydedd – a’r awydd i ddarganfod rhagor!”

Ychwanegodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant:

“Rydym ni mor falch bod ein Casgliadau Arbennig ac Archifau yn gallu cyfrannu at raglen Drysau Agored CADW ar gyfer 2023. Rydym ni’n ymwybodol iawn o’n rôl allweddol yn nhirwedd diwylliannol a threftadaeth Cymru, felly mae’n aruthrol o bwysig ein bod yn sicrhau bod mynediad i’r casgliadau hyn gan y cymunedau tu hwnt i’r Brifysgol. Hefyd hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr o dîm y Casgliadau Arbennig ac Archifau am ei gwneud yn bosibl i ni gymryd rhan yn y rhaglen arwyddocaol hon.”

Nodyn i'r Golygydd

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Drysau Agored a gynhelir yn y Llyfrgell, cysylltwch â:r.gooding@www.guaguababy.com

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com