Hafan YDDS-Sefydliadau ac Academïau-Coleg Celf Abertawe-Darlunio- Gwobrau Darlunio’r Byd AOI

Sylwer: mae’r fideo ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Mae’n bleser gan Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gynnal Arddangosfa Gwobrau Darlunio’r Byd AOI.

Mae’r arddangosfa, a drefnwyd ganThe Association of Illustrators(AOI), mewn partneriaeth â’r Cyfeiriadur Darlunio, yn archwilio i ystyr darlunio yn yr oes sydd ohoni, sut y mae’n siapio ein byd a’n dealltwriaeth a sut y mae’r gelfyddyd ei hun yn newid. “Mewn diwylliant gweledol sy’n cael ei dominyddu gan ffotograffiaeth, mae darlunio yn cynnig ffordd hyfryd o wahanol i weld y byd,” meddai un o feirniaid Gwobrau Darlunio’r Byd 2018, Rob Alderson, Prif Olygydd Wetransfer.

Mae’r arddangosfa’n dangos yr holl brosiectau a enillodd eu categori, ochr yn ochr â detholiad o’r rhestr fer o 200 o ddarluniau, a luniwyd o blith y nifer fwyaf o geisiadau erioed, sef 3,300, o 75 o wahanol wledydd.

Bydd yr arolwg blynyddol hwn o’r darlunio gorau ar draws y byd yn archwilio ymhle mae darlunio nawr, i ble y mae’n mynd yn y dyfodol, ac arddangos cewri’r diwydiant sy’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd o artistiaid.Gall ymwelwyr ddisgwyl cael eu hysbrydoli gan yr arddangosfa amrywiol a diddorol hon.

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o fis Ionawr i ganol mis Chwefror.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefanThe Association of Illustrators